'Sicrhaodd llofrudd Mike bod dim byd ar ôl i ni, rhaid newid y gyfraith'

Mike a'i wraig SianFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mike O'Leary, yma gyda'i wraig Siân, ei ladd yn 2020

  • Cyhoeddwyd

Bydd teulu dyn a gafodd ei lofruddio yn Sir Gâr yn teithio i San Steffan ddydd Mawrth yn eu hymdrech i geisio gwneud anffurfio neu ddinistrio corff marw yn drosedd.

Cafodd Mike O'Leary o Nantgaredig ei lofruddio yn 2020, cyn i'w gorff gael ei losgi.

Dywedodd ei chwaer, Lesley Rees, bod ymweld â bedd ei brawd yn "anodd iawn", a hynny achos "s'dim byd yna", meddai.

Fe fydd Ms Rees yn cwrdd â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder fel rhan o'i hymgyrch i wneud dinistrio corff yn drosedd benodol.

Daw wedi i'r AS dros Gaerfyrddin, Ann Davies, godi'r mater yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog ym mis Mehefin, gan gyfeirio'n benodol at lofruddiaeth Mr O'Leary.

Mike a'i feibionFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae meibion Mr O'Leary, a gweddill ei deulu, yn dal i gael trafferth dod i delerau gyda'r hyn ddigwyddodd

Yn dad i dri o blant, cafodd Mike O'Leary, 55, ei saethu'n farw gan Andrew Jones ym mis Ionawr 2020.

Roedd Jones, a oedd yn ffrind i Mr O'Leary, wedi darganfod ei fod yn cael perthynas gyda'i wraig.

Fe wnaeth Jones ddenu Mr O'Leary i'w fferm anghysbell Cincoed, ger pentref Cwmffrwd, a'i saethu gyda reiffl 0.22.

Aeth â'r corff yn ôl i'w gartref yn Heol Bronwydd, ble losgodd gorff Mr O'Leary ar goelcerth o faledau pren gyda chymorth tanwydd.

Daeth yr heddlu o hyd i ddarn bach o goluddyn Mr O'Leary mewn hen gasgen olew yn ystod yr ymchwiliad, ond roedd gweddillion y corff wedi cael eu gwaredu gan Jones.

Nid yw gweddill corff Mr O'Leary erioed wedi cael ei ddarganfod.

Fis Hydref 2020, cafodd Andrew Jones ei garcharu, gan wybod y byddai'n treulio o leiaf 30 mlynedd dan glo cyn y gellir ystyried ei ryddhau.

Siân O'Leary a Lesley Rees
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Siân O'Leary (chwith) a Lesley Rees yn ceisio tynnu sylw at eu hymgyrch yn San Steffan

Dros bum mlynedd ers llofruddiaeth Mike O'Leary, mae ei deulu'n ymgyrchu dros Gyfraith Helen 2: Atal Anffurfio Corff (Helen's Law 2: Stop the Desecration).

Mae'n galw am ddiwygiad o gyfreithiau claddu hynafol ac, yn benodol, yn galw am gyflwyno trosedd newydd o anffurfio corff.

Yng ngorsaf drenau Caerfyrddin, ar ddechrau taith y teulu i Lundain i gyfarfod â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, dywedodd Ms Rees eu bod yn dal i gael trafferth dod i delerau â'r hyn ddigwyddodd.

"Mae colli anwyliaid i lofruddiaeth yn ddigon ofnadwy fel mae hi. Pan chi heb gael corff i ffarwelio gyda, mae e'n waeth byth", meddai.

"Mae gyda sawl gwlad arall fel America a'r Almaen y ddeddf yma yn bodoli, maen hen bryd i ni gael un yn y wlad hyn."

Ychwanegodd bod yr hyn mae'r teulu wedi ei brofi yn "hunllef llwyr".

"Mae beth nath e [Andrew Jones] i gorff Mike, ar ôl ei ladd e, yn ofnadwy a'n gweithio ein pennau ni bob dydd.

"Welon ni ar y CCTV, ac mae hwnna dal yn ein meddyliau ni, bod e wedi defnyddio forklift truck i godi corff Mike i boot y car, wedi rhoi Mike ar bentwr o pallets o'dd e wedi eu rhoi mewn lle ar y dydd Sadwrn cynt, a arhosodd e lan dros nos i dano'r tân i sicrhau bod dim byd ar ôl gyda ni."

Bedd Mike O'LearyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymweld â bedd Mr O'Leary yn dal yn anodd i'r teulu

Wrth gyfeirio at gorff ei brawd, dywedodd: "'Na gyd oedd gyda ni oedd 6cm o'r lower intestine a 'na gyd sydd gyda ni yn y bedd.

"Mae'n anodd iawn i ni i fynd i'r bedd, achos s'dim byd 'na. Gethon ni neb i roi cusan ffarwel i, na cwtsh. Mae'n anodd iawn.

"Os bydde hwn yn bodoli yn 2020, o leiaf bydde fe [Andrew Jones] wedi cael ei gyhuddo o'r troseddau i gyd, dim just y llofruddiaeth."

Ychwanegodd: "Ni fel teulu wedi derbyn, falle newn ni byth wybod beth nath ddigwydd i weddill corff Mike.

"Ma' hwnna'n anodd, yn enwedig i Mam sy'n 87, Siân [gwraig Mike] a'r bois. Mae'n anodd i ni gyd."

Mae teuluoedd dioddefwyr eraill, yn cynnwys April Jones o Fachynlleth, Sarah Everard a Helen McCourt, hefyd yn galw am gyflwyno trosedd newydd.

Cafodd April Jones, oedd yn bump oed, ei llofruddio gan Mark Bridger yn 2012, ac fe gafodd darnau bach o'i phenglog eu canfod yn ei gartref.

Cafodd Sarah Everard, 33, ei llofruddio yn 2021 gan yr heddwas Wayne Couzens. Fe losgodd Couzens ei chorff, gyda'i gweddillion yn cael eu canfod mewn coetir yn Ashford, Caint.

Mam Michael O'Leary a mam Helen McCourtFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae mam Michael O'Leary, Val (chw), wedi bod yn ymgyrchu gyda mam Helen McCourt am newid yn y gyfraith

Cafodd Helen McCourt, 22, ei llofruddio yng Nglannau Mersi yn 1988 gan landlord tafarn lleol o'r enw Ian Simms. Ni wnaeth y llofrudd, sydd bellach wedi marw, erioed ddatgelu lleoliad ei chorff.

Ers hynny, bu ei mam, Marie McCourt, yn ymladd yn llwyddiannus am Helen's Law, er cof am ei merch.

Yn sgil y ddeddfwriaeth, a ddaeth i rym yn Ionawr 2021, mi all rhai sy'n llofruddio wynebu cyfnod hirach yn y carchar, a pharôl yn cael ei wrthod, os ydyn nhw'n gwrthod datgelu ble mae corff dioddefwr.

Bellach, mae Mrs McCourt yn credu'n gryf bod angen i'r gyfraith fynd gam ymhellach, fyddai'n cydnabod dinistrio corff marw fel trosedd newydd, ar wahân.

Mike O'Leary (dde) gyda'i frodyrFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mike O'Leary (dde) gyda'i frodyr

Yn ôl AS Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, Ann Davies, byddai cyflwyno trosedd newydd yn "gam gwbl hanfodol i ddangos na fydd creulondeb o'r fath byth yn dderbyniol".

"Rydw i wedi gweld y boen y mae teulu Mike O'Leary yn parhau i'w wynebu bob dydd ers ei lofruddiaeth greulon nôl yn 2020.

"Fydd rhai teuluoedd byth yn gwybod beth ddigwyddodd i'w hanwyliaid a byddant yn gorfod wynebu cwestiynau heb atebion a diffyg terfyn ar eu hachosion am weddill eu hoes."

Dywedodd y byddai'n gwthio'r gweinidog, Alex Davies-Jones AS am y "newid sy'n daer ei angen", a cheisio cael eglurder am y camau nesaf i "gau'r bylchau yn y gyfraith sy'n caniatáu i droseddwyr osgoi cyfiawnder am gyflawni gweithredoedd mor erchyll".

"Yn y pen draw, y teuluoedd yw prif ffocws y cyfarfod heddiw. Nhw yw'r rhai sy'n parhau i ddioddef y trawma na all unrhyw un ei ddychmygu o beidio â gwybod beth ddigwyddodd i'w hanwyliaid.

"Er na fydd Cyfraith Helen Rhan 2 yn medru dod â'r rhai a laddwyd yn ôl yn fyw, byddai'n sicr yn gam pwysig tuag at sicrhau urddas, atebolrwydd a chyfiawnder.

"Mae'n gam hanfodol i sicrhau rhywfaint o derfyn i'r teuluoedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.