Lloegr: Pwy yw'r merched mewn gwyn?

- Cyhoeddwyd
Bydd menywod Cymru'n chwarae eu gêm grŵp nesaf yn Euro 2025 yn erbyn Lloegr, enillwyr Euro 2022.
Fydd y gêm yn cael ei chwarae yn stadiwm Kybunpark yn ninas St. Gallen yng ngogledd-ddwyrain Y Swistir.
Mae Cymru wedi colli eu dwy gêm agoriadol yn y bencampwriaeth, gan golli 0-3 i'r Iseldiroedd yn eu gêm gyntaf a 1-4 yn erbyn Ffrainc yn eu hail gêm.
Felly mae'n annhebygol fydd Cymru'n parhau i rownd yr wyth olaf.
Ond pa mor obeithiol all Cymru fod o gael canlyniad calonogol beth bynnag? A beth yw hanes carfan y Lionesses?
Dyma ambell ffaith am y merched mewn gwyn.
Y gêm gyntaf swyddogol
Gêm swyddogol gyntaf tîm cenedlaethol Lloegr oedd yn erbyn Yr Alban ym mis Tachwedd 1972 yn Greenock, gyda'r Saeson yn ennill 3-2.
Sefydlwyd tîm cenedlaethol menywod yn Lloegr ynghynt y flwyddyn honno ar ôl i'r Gymdeithas Bêl-Droed ddiddymu eu gwaharddiad nhw o bêl-droed menywod.
Ond, cyn hynny, cafodd pêl-droed menywod ei wahardd gan y Gymdeithas Bêl-Droed yn 1921, am 51 o flynyddoedd.

Tîm Lloegr yn Stadiwm Wembley yn hyfforddi ar gyfer eu gêm bêl-droed ryngwladol swyddogol gyntaf yn erbyn Yr Alban ym mis Tachwedd 1972
Y rheolwr
Sarina Wiegman o'r Iseldiroedd yw rheolwr Lloegr ers mis Medi 2021. Wnaeth hi arwain y Lionesses i'w buddugoliaeth hanesyddol yn Euro 2022.
Cyn hynny, roedd Wiegman yn rheolwr Yr Iseldiroedd o 2016 nes 2021, gan ennill yr Ewros yn 2017.
Mae Wiegman yn 55 mlwydd oed a hefyd wedi rheoli tîm menywod ADO Den Haag a Ter Leede.
Yn ei gyrfa chwarae, roedd Wiegman yn amddiffynnwr a'n chwarae i glwb Ter Leede.
Wnaeth hi gynrychioli ei gwlad hefyd, gan ennill 99 o gapiau a sgorio thair gôl rhwng 1987 a 2001.

Sarina Wiegman, rheolwr Lloegr
Llwyddiannau'r gorffennol
Y Lionesses oedd pencampwyr Euro 2022, gan guro Yr Almaen 2-1 yn y ffeinal yn Stadiwm Wembley.
Yn ogystal, cyrhaeddon nhw'r ffeinal yng Nghwpan y Byd 2023, gan golli 1-0 yn erbyn Sbaen.
Mae Lloegr wedi cymhwyso ar gyfer pob Pencampwriaeth yr Ewros sydd wedi ei chynnal ers 2000.
Daethon nhw'n ail yn Euro 2009 a chyrraedd y rownd cyn derfynol yn 2017.

Y Lionesses yn dathlu eu buddugoliaeth yn ffeinal Euro 2022
Euro 2025 mor belled
Cafodd y Saeson eu trechu 2-1 yn eu gêm gyntaf yn Euro 2025 yn erbyn Ffrainc ar nos Sadwrn 5 Gorffennaf.
Ond fe guron nhw'r Iseldiroedd 4-0 yn eu hail gêm ar nos Fercher 9 Gorffennaf, gyda'r ymosodwr Lauren James yn sgorio ddwywaith, a Georgia Stanway ac Ella Toone hefyd yn rhoi'r bêl yng nghefn y rhwyd.
Fe sicrhaodd Lloegr eu lle yn Euro 2025 drwy orffen yn ail y tu ôl i Sbaen yn eu grŵp rhagbrofol. Ennillon nhw dair o'u chwech gêm a gorffen gyda deg pwynt, pump pwynt tu ôl i Sbaen.

Lauren Hemp yn rhedeg gyda'r bêl yn ystod buddugoliaeth 4-0 Lloegr yn erbyn Yr Iseldiroedd yn Zurich
Lloegr v Cymru
Mae Lloegr a Chymru wedi wynebu ei gilydd bedair gwaith yn gyfan gwbl, gyda Lloegr yn fuddugol dair gwaith a gêm gyfartal oedd y llall.
Yn y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad yn 2013 fe enillodd Lloegr 2-0, ac yn yr ail gêm yn 2014, roedd Lloegr yn fuddugol 4-0. Yn 2018 cafwyd dwy gêm rhwng y ddwy wlad - gêm gyfartal 0-0 ym mis Ebrill, a buddugoliaeth 3-0 i Loegr ym mis Awst.
Mae Lloegr yn y pumed safle yn netholion y byd FIFA.
Yr uchaf mae'r Saeson wedi cyrraedd yn netholion FIFA yw ail, a hynny o Fawrth i Fehefin 2018, o Fawrth i Fehefin 2024, ac o Awst i Ragfyr 2024.
Mae Cymru'n safle 30 yn netholion FIFA ar hyn o bryd.
Safle uchaf erioed Cymru yn netholion FIFA yw 29, ac roeddent yn y safle hwnnw o Fehefin i Ragfyr 2018, Awst 2023 ac Awst 2024.

Sophie Ingle a Nikita Parris yn brwydro am y bêl y tro diwethaf i'r Cymry a'r Saeson wynebu ei gilydd. Lloegr oedd yn fuddugol 3-0 yng Nghasnewydd ar 31 Awst, 2018
Sêr y Lionesses
Un o brif chwaraewyr y Lionesses yw'r ymosodwr Lauren James, sy'n 23 mlwydd oed ac yn chwarae i Chelsea yn y Women's Super League.
Mae James wedi cynrychioli ei gwlad 30 o weithiau ers cael ei chap cyntaf yn 2022, ac wedi sgorio naw gôl.
Roedd hi'n rhan bwysig o garfan Lloegr yn ystod eu perfformiad gwefreiddiol yng Nghwpan y Byd 2023.
Yn ddiweddar, mae hi hefyd wedi bod yn rhan allweddol o garfan Chelsea, gan sgorio 22 o goliau mewn 49 ymddangosiad i'r clwb ers ymuno yn 2021.
Wnaeth hyd yn oed rheolwr Yr Iseldiroedd, Andries Jonker, ganu ei chlodydd yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn ei dîm ar 9 Gorffennaf, gan arsylwi ar ei chyflymdra ffyrnig a'i phŵer saethu.
Hefyd, mae'r capten 28 mlwydd oed Leah Williamson yn arwain y tîm o'r amddiffyn gyda'i phrofiad a'i dygnwch.
Gydag ymadawiad annisgwyl yr amddifynnwr profiadol Millie Bright o'r garfan am resymau iechyd meddwl ar ddechrau Mehefin, mae disgwyl i Williamson fod ar ei gorau.
Enillodd yr amddiffynnwr canol dlws Cynghrair y Pencampwyr nôl ym mis Mai gyda'i chlwb Arsenal.

Lauren James (canol) yn dathlu un o'i goliau yn erbyn Yr Iseldiroedd yn eu hail gêm yn Euro 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf