20 mlynedd o uchafbwyntiau stadiwm Swansea.com

Stadiwm Swansea.com (Stadiwm y Liberty gynt), Abertawe
- Cyhoeddwyd
Ar ôl i'r chwiban olaf gael ei chwythu yn yr hen gae Vetch, cafodd stadiwm newydd o'r enw The Liberty ei agor yn 2005 a oedd yn gartref i glwb rygbi'r Gweilch yn ogystal â chlwb pêl-droed Abertawe.
Mae bellach yn cael ei alw yn Swansea.com Stadium.
Gareth Rhys Owen sy'n edrych ar rai o uchafbwyntiau'r stadiwm dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.
Y Gyntaf
Pwy sy'n cofio chwaraewr canol cae Fulham, Steed Malbranque? Wel, y Ffrancwr oedd y chwaraewr cyntaf i sgorio yn y stadiwm mewn gêm gyfeillgar rhwng Fulham ac Abertawe ar 23 Gorffennaf 2005.
Y Sais Mark Goodfellow oedd yr Alarch cyntaf i rwydo yn yr un gêm.
Chwech wythnos yn ddiweddarach hawliodd Adebayo Akinfenwa y gôl gystadleuol gyntaf yn y stadiwm pan drechodd Abertawe Tranmere o gôl i ddim.

Steed Malbranque oedd y chwaraewr cyntaf i sgorio gôl yn y stadiwm newydd
Y Bythgofiadwy
Shane, Michu, Bale... mae yna gasgliad sylweddol o sêr sydd wedi creu eiliadau i'w trysori ar faes chwarae Stadiwm Liberty.
Mae gôl Darren Pratley o'i hanner ei hun yn erbyn Nottingham Forest yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth yn enghraifft amlwg.
Ac yn fwy ddiweddar, gôl wefreiddiol Jess Fishlock o 30 llath yn erbyn yr Eidal wrth i Gymru gwblhau eu paratoadau ar gyfer pencampwriaeth Ewro 2025.

Jess Fishlock yn dathlu gôl wych ym mis Chwefror yn erbyn yr Eidal
Yr Hanesyddol
Bydd Shaun Connor wastad yn cofio'r noson anfarwol pan lywiodd y Gweilch i fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Awstralia yn 2006.
Y gêm honno oedd y tro cyntaf i bob tocyn gael ei werthu ar gyfer unrhyw gamp yn y stadiwm. Connor oedd seren y gêm wrth i'r Gweilch gipio buddugoliaeth o 24 i 16.

Bydd Shaun Connor wastad yn cofio'r noson anfarwol yma yn 2006
Yr Anghyson
Bydd rhai yn synnu dysgu nad oedd y tîm pêl droed cenedlaethol erioed wedi chwarae yn ninas Abertawe nes agoriad y Swansea.com.
Hyd yn oed ers hynny, prin iawn yw'r llwyddiant mae'r tîm cenedlaethol wedi ei brofi yn ail ddinas Cymru. Dim ond dwy o'u hwyth gêm wnaeth arwain at fuddugoliaeth, gyda Gareth Bale yn disgleirio wrth drechu'r Swistir yn 2011 ac Awstria yn 2013.

Gareth Bale yn sgorio yn erbyn y Swistir yn 2013
Yr Antur Fawr
Bu'n dipyn o daith i'r Elyrch ym mlynyddoedd cynnar Stadiwm Liberty; o groesawu Tranmere yn yr adran gynta' yn 2005 i bêl-droed Ewropeaidd wyth blynedd yn ddiweddarach.
Cafwyd buddugoliaethau nodedig yn erbyn Arsenal, Man City a Lerpwl yn yr Uwchgynghrair ac yna daeth ymgyrch Ewropeaidd yn goron ar y cwbl. Malmö o Sweden oedd yr ymwelwyr ar gyfer y gêm gyntaf yng Nghyngrair Ewropa, gyda'r tîm cartref yn ennill 4-0.

Abertawe a Malmö FF yn cerdded allan o'r twnel ar gyfer eu gêm yn Nghyngrair Ewropa 2013
Y Chwerthinllyd
Nid Charlie Morgan oedd yr unigolyn cyntaf i orwedd mewn poen "enbyd" ar wair Stadiwm Liberty, ond hawliodd y lluniau o'r ball boy 17 oed yn rolio ar y llawr dudalennau blaen a chefn papurau a gwefannau ar draws y byd.
Ymateb oedd Morgan i gic a dderbyniodd gan y seren Eden Hazard yn ystod gêm rhwng Abertawe a Chelsea yn 2013. Roedd Hazard yn rhwystredig nad oedd Morgan wedi rhoi'r bêl yn ôl iddo a derbyniodd gerdyn coch gan y dyfarnwr.
Mae Morgan bellach yn ŵr busnes hynod o lwyddianus gyda'i gwmni creu fodca yr un mor adnabyddus â'r digwyddiad nodedig hwnnw.

Charlie Morgan y ball-boy yn helpu Abertawe i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Chelsea, ar ôl i Hazard gael ei hel o'r cae
Y Lliwgar
Mae yna gyfres o sêr byd-enwog wedi diddanu cynulleidfaoedd yn Abertawe dros yr 20 blynedd ddiwethaf.
Fe ddaeth Pink â'i sioe acrobataidd i'r stadiwm yn 2007. Mae Elton John a Take That wedi perfformio yno ddwywaith tra bod bandiau megis The Killers, Kings of Leon, Little Mix a'r Arctic Monkeys hefyd wedi camu ar lwyfan yn y stadiwm.

Pink - dim ond un o'r artistiaid enwog sydd wedi perfformio yn stadiwm Abertawe
Y Diwedd
Ymddengys, wedi dau ddegawd, fod perthynas llewyrchus y Gweilch gyda'r stadiwm am ddod i ben. Er iddyn nhw ennill y gynghrair dair o weithiau yn y cyfnod, mae'r rhanbarth wedi cyhoeddi eu bod nhw am symud i gae St Helen's yn ystod y tymor nesaf.
O ran y clwb pêl droed, byddai 20 mlynedd arall debyg yn cael ei groesawu gan yr holl gefnogwyr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd27 Mehefin
- Cyhoeddwyd20 Mehefin