Trac Rasio: Cwmni i adolygu'r cynllun

  • Cyhoeddwyd
TracFfynhonnell y llun, CoW

Mae'r cwmni sydd tu ôl i gynlluniau ar gyfer trac rasio gwerth £357m yng Nglyn Ebwy yn adolygu'r prosiect, wedi i amheuon godi am ddyfodol y cynllun, a hynny ar ôl i Weinidog Busnes Llywodraeth Cymru gyhoeddi na fydd y llywodraeth yn cytuno i warantu'r cynllun yn ariannol.

Yn ôl y cwmni tu ôl i'r cynllun, Heads of The Valleys Development Company, fe fyddai 6,000 o swyddi yn cael eu creu yn y tymor hir.

Ond yn ôl Edwina Hart ni all y llywodraeth warantu'r cynllun, gan ddweud bod "cwestiynau sylweddol yn bodoli am ddichonoldeb y cynllun".

Ychwanegodd mewn llythyr ar y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai gwarantu'r cynllun yn ariannol yn creu "risg annerbyniol" i'r llywodraeth.

Dywedodd ei bod wedi dod "i'r casgliad yn groes i'r graen" i beidio â pharhau gyda gwarantu arian ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol.

Roedd disgwyl y byddai cwmni yswiriant Aviva yn cefnogi'r cynllun yn ariannol.

Byddai arian y cwmni wedi galluogi datblygwyr i weithio ar y trac, fyddai yn y pen draw yn atyniad i filoedd o gefnogwyr digwyddiadau rasio fel y MotoGP.

Ond asgwrn y gynnen yw'r disgwyliad y byddai Llywodraeth Cymru'n darparu gwarantiad ariannol i'r cynllun, sy'n cael ei ariannu gan gwmnïau preifat.

Yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol ag ariannol yn fewnol ag allanol, fe wnaeth Ms Hart ei phenderfyniad i beidio â bwrw 'mlaen gyda'r hyn yr oedd dan ystyriaeth.

Dywedodd cwmni Aviva wrth BBC Cymru nad oedd modd iddo wneud unrhyw sylw ar y mater.

Llythyr

Yn ei llythyr at Carwyn Jones, dywedodd Ms Hart: "Fel y byddwch yn ymwybodol, rydym wedi bod yn gweithio i gefnogi'r cynllun hwn am amser sylweddol ac rydym yn barod wedi gwario tua £9m i gefnogi ei ddatblygiad.

"Fe wnaethon ni hefyd edrych ar rannu'r risg gyda nifer o awdurdodau lleol, ac fel y gwyddoch fe wnaeth yr opsiwn yma fethu hefyd yn anffodus.

Disgrifiad,

Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Daniel Davies.

"Yn ystod y dyddiau diwethaf rydym wedi ystyried bod gwarantu 80% o werth llawn y cynllun wedi gallu gostwng ein risg posib i lefel dderbyniol. Ond nid yw cwmni Circuit of Wales wedi llwyddo i sicrhau cyfalaf risg preifat ac felly nid yw hyn wedi bod yn bosib."

Ychwanegodd Ms Hart ei fod yn bwysig i "gadw'r drws ar agor i unrhyw fuddsoddwr newydd fyddai'n gallu symud y cynllun yn ei flaen".

Ymateb y datblygwr

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Michael Carrick, prif weithredwr Heads of The Valleys Development Company:

"Rydym yn cydnabod ag yn gwerthfawrogi cefnogaeth ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru phartneriaid y sector breifat dros nifer fawr o flynyddoedd er mwyn cael cynllun mor gymleth â Circuit of Wales i sefyllfa lle roedd y gwaith adeiladu ar fin cychwyn.

"Rydym yn parchu ac yn deall penderfyniad y Gweinidogion am gefnogaeth o warant o 100% i'n cyllid preifat. Tra dyma oedd yr hyn yr oeddem wedi ei obeithio fwyaf, ag yn adlewyrchiad o'r trafodaethau a gafwyd dros y chwe mis diwethaf, rydym yn derbyn y bydd angen i'r cynllun symud yn ei flaen dan dermau newydd.

"Byddwn yn parhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol ag Aviva Investors i ddatblygu'r cynllun dan dermau newydd fydd yn dderbyniol i bawb."

Fe wnaeth cwmni adeiladu ceir TVR gytuno'n ddiweddar i sefydlu ei ffatri newydd yng Nglyn Ebwy ger lleoliad y trac rasio arfaethedig.

'Siomedig'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew RT Davies wedi dweud bod y newyddion yn "siomedig".

"Mae'n hynod o siomedig ond yn hollol rhagweladwy fod gweinidogion Llafur wedi aros tan i'r Cynulliad gael ei ddiddymu cyn gwneud y cyhoeddiad hwn, gan na fydd gan Aelodau Cynulliad y cyfle i ofyn cwestiynau.

"Yn amlwg, rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn ofalus o'r arian y mae'n ei wario, ond mae'n eironig, yn ystod wythnos pan maen nhw wedi gofyn i Lywodraeth Prydain warantu dyfodol y diwydiant dur, eu bod nhw'n amharod i gefnogi'r hyn fyddai'n gynllun cyffrous."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhai sydd tu ôl i'r cynllun wedi dweud y byddai modd cynnal pencampwriaethau fel y Touring Car yno

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru. Dywedodd llefarydd:

"Mae hyn yn newyddion trychinebus i Flaenau Gwent ac yn dangos agwedd amaturaidd llywodraeth Llafur tuag at sicrhau prosiectau o werth economaidd sylweddol.

"Byddai'r Circuit of Wales wedi sicrhau hwb bwysig i dde ddwyrain Cymru, gan greu nifer sylweddol o swyddi o ansawdd uchel."

Ergyd

Dywedodd llefarydd UKIP: "Mae hyn yn bechod mawr ond gan ystyried bod diffyg yng nghyllideb Cymru fel cyfartaledd GDP yn 25% pan oedd cyllideb Groeg yn ystod argyfwng ariannol Ewrop, ac hynny mewn cyfnod pan oedden nhw o dan fesurau llymder...yn 15%, dyw hi ddim yn syndod nad yw'r Cynulliad yn gallu gwarantu unrhywbeth.

"Dwi ddim yn meddwl bod pleidleiswr yn sylweddoli pa mor anllythrennog yn economaidd yw ACau."

Yn ôl Eluned Parrott o'r Democratiaid Rhyddfrydol bydd hyn yn ergyd fawr i deuluoedd a busnesau yn yr ardal. Mae hi'n dweud bod gan y blaid Lafur gwestiynau i'w hateb am y sefyllfa.

Dywedodd: "Pam wnaeth Llywodraeth Cymru wario £9 miliwn o arian trethdalwyr ar brosiect sydd nawr yn teimlo fel ei fod wedi colli hygrededd economaidd?

"Pam eu bod nhw wedi codi gobeithion y gymuned leol yn y ffordd greulon hon, dim ond i'w siomi nhw nawr? Faint o swyddi allai £9 miliwn fod wedi ei greu pe byddai'r arian wedi ei fuddsoddi yn fwy doeth?"