Codi cartref newydd i fad achub yr RNLI yn Llandudno
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith wedi dechrau ar godi gorsaf bad achub newydd i Landudno, a hynny ar ôl ugain mlynedd o oedi ac anghytuno ynglŷn â safle newydd.
Bydd yr orsaf newydd ar gyfer yr RNLI yn cael ei chodi yng Nghraig-y-Don ar draeth y gogledd.
Mae'n disgwyl i'r bad newydd, Shannon, sy'n costio £2 miliwn gael ei chartrefu yno erbyn 2017.
Gan fod yr orsaf bresennol yng nghanol y dre, mae'n rhaid cael tractor i dywys y bad drwy strydoedd prysur.
"Mae'r criw wrth eu bodd - mae wedi bod yn ugain mlynedd o edrych ac ymgyrchu am gartref newydd," meddai Marcus Elliot, rheolwr gorsaf yr RNLI yn Llandudno.
"Mae'r orsaf bresennol yng nghanol y dre yn gyfyng, a byddai'r bad achub newydd yn rhy fawr.
"Pe na bai ni wedi dod o hyd i safle newydd byddai'r gwasanaeth bad pob-tywydd, gwasanaeth sydd wedi bod yma ers 1861 yn gorfod dod i ben."
Fe ddechreuodd y trafod am orsaf newydd dechrau'r 90au, gyda'r cynllun gwreiddiol ar gyfer safle wrth y pier yn cael ei wrthod yn 1998.
Dywed yr RNLI eu bod yn gobeithio cwblhau'r gwaith o godi gorsaf newydd mewn 14 mis.