Taith olaf yr Hawk o'r Fali, Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae awyrennau Hawk T1 wedi cynnal eu taith olaf o safle'r Awyrlu yn Y Fali, Ynys Môn ddydd Mercher.
Mae defnydd o'r awyrennau, sydd wedi bod yn cael eu defnyddio i hyfforddi peilotiaid, wedi bod yn dod i ben yn raddol, ynghyd â diddymu Sgwadron 208 er mwyn dechrau hyfforddi gydag awyrennau newydd y T2.
Yr wythnos diwethaf, daeth i'r amlwg fod hyd at 53 o swyddi dan fygythiad o ganlyniad i'r newidiadau, gan na fydd yr awyrennau T2 yn cyrraedd am flwyddyn arall.
Aeth yr awyrennau dros Ddolgellau a Machynlleth ar gyfer eu taith olaf.
Dywedodd y Capten Brian Braid, o ganolfan Y Fali: "Mae'r rhan fwyaf o beilotiaid awyrennau jet cyflym yr Awyrlu a'r Llynges Frenhinol wedi hyfforddi yma yn ystod y 22 mlynedd diwethaf.
"Mae pob un peilot wedi cael eu hyfforddi gan Sgwadron 208, felly rydym yn edrych yn ôl ar y cysylltiad rhwng awyren yr Hawk a'r Fali dros y blynyddoedd gyda llawer iawn o falchder."