58 ers '58: Llaw Joe Jordan yn '77

  • Cyhoeddwyd

Ers i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1958, mae'r tîm cenedlaethol wedi dod yn agos at wneud eu marc ar y byd pêl-droed rhyngwladol sawl tro. Mewn cyfres o erthyglau, bydd Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar rai o'r adegau cyffrous orffennodd mewn siom wrth i Gymru foddi wrth ymyl y lan.

jordan
Disgrifiad o’r llun,

Joe Jordan yn cusanu ei law ar ôl ennill cic o'r smotyn i'r Alban yn Anfield

"Ro'n i'n gwybod yn syth nad oedd hi'n gic o'r smotyn!"

Dyna eiriau capten Cymru ar 12 Hydref 1977 - Terry Yorath - am y digwyddiad sy'n fwy nag un arall wedi ei hoelio ar gof llawer o gefnogwyr Cymru.

Roedd yn sôn am ddigwyddiad du yn hanes tîm cenedlaethol Cymru, ac un oedd yn ymwneud â thad bedydd ei ferch enwog Gabby - Joe Jordan.

Y cefndir? Rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd oedd i'w cynnal yn Ariannin yn 1978.

Oherwydd trafferthion mewn gêm ym Mharc Ninian yn 1976, roedd yn rhaid i Gymru chwarae eu gemau dros 100 milltir o Gaerdydd.

Roedden nhw eisoes wedi curo Tsiecoslofacia ar y Cae Ras yn Wrecsam o 3-0, ac fe fyddai buddugoliaeth mewn gêm 'gartref' yn erbyn Yr Alban wedi eu gadael ar frig y grŵp gydag un gêm yn weddill yn Prague.

Penderfyniad er mwyn arian

Yn ôl Terry Yorath, roedd penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhannol gyfrifol am y siom aruthrol a gafwyd.

"Ro'n i'n credu bod ganddon ni gyfle gwych i fynd ymlaen i'r rowndiau terfynol, ond fe wnaeth y Gymdeithas Bêl-droed chwalu hynny drwy ddewis chwarae'r gêm yn Anfield ac ildio'r fantais o chwarae gartref.

"Roedd mwy o Albanwyr nag o Gymry yno, a'r cyfan er mwyn gwneud mwy o arian."

Fe fyddai hyd yn oed gêm gyfartal wedi rhoi cyfle i Gymru fynd ymlaen, ac roedd hi'n ddi-sgôr gyda 12 munud o'r gêm yn weddill.

Daeth croesiad i mewn i gwrt cosbi Cymru - fe aeth llaw i fyny a chyffwrdd â'r bêl, ac fe roddodd y dyfarnwr gic o'r smotyn i'r Alban.

yorathFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Terry Yorath yn chwarae i Gymru yn erbyn Lloegr

Gêm dda i'r dyfarnwr

Dywedodd Terry Yorath: "Ro'n i'n gwybod yn syth nad oedd hi'n gic o'r smotyn! Ar y noson, roedden ni'n chwarae mewn crysau llewys byr, ond roedd cyffen wen ar y fraich aeth i fyny.

"Mae'n amlwg felly mai Albanwr wnaeth lawio'r bêl, ac yn fy marn i fe wnaeth y dyfarnwr gamgymeriad anferthol.

"Rhaid i mi ddweud ei fod e [y dyfarnwr] wedi cael gêm ardderchog heblaw am yr un penderfyniad yna, ond dyw hynny'n fawr o gysur.

"Dwi wastad yn dweud bod yr ail gôl yn amherthnasol - yr un gyntaf oedd yr un bwysig."

Fe sgoriodd Don Masson o'r smotyn i roi'r Alban ar y blaen ac fe ychwanegodd Kenny Dalglish un arall cyn y diwedd i adael yr Alban ar frig y grŵp ac ar eu ffordd i Dde America.

Dangosodd y lluniau teledu'n glir mai blaenwr Yr Alban, Joe Jordan, oedd wedi llawio'r bêl.

Yorath a JordanFfynhonnell y llun, LUFC
Disgrifiad o’r llun,

Yorath a Jordan yn ystod eu dyddiau gyda'i gilydd yn Leeds

Ffrindiau

Roedd Jordan a Terry Yorath yn gyd-chwaraewyr yn Leeds United am flynyddoedd gyda'r ddau yn aelod o'r tîm enillodd y bencampwriaeth yn 1974. Fe chwaraeodd y ddau hefyd yn rownd derfynol Cwpan Ewrop yn 1975.

Roedden nhw'n gyfeillion da.

Cymaint felly fel mai Joe Jordan yw tad bedydd merch Terry Yorath, y gyflwynwraig teledu Gabby Logan.

Er hynny, ni wnaeth y ddau drafod y digwyddiad yn Anfield am hir.

"Roeddwn i wedi gadael Leeds yn 1976, felly doedden ni ddim yn gweld ein gilydd mor aml ag y buon ni," meddai Yorath.

"Hefyd roedd y digwyddiad yn un mor boenus, doeddwn i ddim eisiau ei drafod."

Dal i frifo

Roedd Joe Jordan wedi bod ar y teledu yn gwadu iddo wneud dim o'i le am gyfnod hir wedi'r gêm.

"Dim ond flynyddoedd maith yn ddiweddarach y dywedodd Joe wrtha i: 'Ie - fi wnaeth lawio'r bêl'.

"Tan hynny doedd e ddim wedi bod eisiau trafod y peth gyda mi o gwbl."

Teimlad o euogrwydd efallai?

Waeth beth oedd y rheswm, roedd gweithred Joe Jordan yn golygu na fyddai tîm ardderchog Cymru yn y 1970au yn cyrraedd pinacl y byd pêl-droed, ac i lawer o gefnogwyr mae'r noson yn Anfield yn dal i frifo yn fwy na sawl un arall.