58 ers '58: Bodin a'r bar yn '93

  • Cyhoeddwyd

Ers i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1958, mae'r tîm cenedlaethol wedi dod yn agos at wneud eu marc ar y byd pêl-droed rhyngwladol sawl tro. Mewn cyfres o erthyglau, bydd Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar rai o'r adegau cyffrous orffennodd mewn siom wrth i Gymru foddi wrth ymyl y lan.

bodinFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cynnig Paul Bodin o'r smotyn yn taro'r trawst

Roedd y ras i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 1994 yn un rhyfeddol o agos cyn belled ag yr oedd Cymru yn y cwestiwn.

Pan chwaraewyd y rownd olaf o gemau yn y rowndiau rhagbrofol ar 17 Tachwedd 1993, roedd pedwar tîm yn dal gyda gobaith o orffen yn y ddau uchaf yn y grŵp, gan sicrhau eu lle yn yr Unol Daleithiau yr haf canlynol.

Ym Mharc yr Arfau oedd y gêm dyngedfennol i Gymru, a Romania oedd yr ymwelwyr.

Flwyddyn a hanner ynghynt, fe gafodd Cymru ddechrau trychinebus i'w hymgyrch yn y gêm oddi cartref gyfatebol - enillodd Romania o 5-1.

Ond ers hynny roedd canlyniadau da yn erbyn Gwlad Belg, RCS (sef tîm oedd yn cynnwys chwaraewyr o'r Weriniaeth Siec a Slofacia), Ynysoedd Ffaro a Chyprus wedi gadael Cymru yn gwybod y byddai buddugoliaeth yng Nghaerdydd yn ddigon i fynd i Gwpan y Byd.

Camgymeriad

Cafodd Terry Yorath sawl siom fel capten tîm Cymru yn y 1970au, ac ef bellach oedd y rheolwr gyda chyfle i wneud yn iawn am y cyfan.

Mae'n cofio'r noson fel ddoe.

"Yn anffodus fe fydd Paul Bodin wastad yn cael ei gofio am fethu gyda'r gic o'r smotyn," meddai Yorath.

"Ond mae pobl yn anghofio am gôl gyntaf Romania. Fe gafodd Gheorghe Hagi y bêl ar yr ystlys a thorri nôl i mewn tua'r canol cyn ergydio.

"Roedd Nev Southall yn un, os nad Y golwr gorau yn y byd ar y pryd, ond rhywsut fe lithrodd y bêl o dan ei gorff ac i mewn... ond does fawr neb yn cofio hynny."

southallFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Camgymeriad gan y golwr Neville Southall arweiniodd at gôl gyntaf Romania

Roedd Cymru'n chwarae'n weddol ac fe wnaethon nhw frwydro'u ffordd yn ôl i'r gêm.

Wedi 61 munud fe sgoriodd Dean Saunders i unioni'r sgôr, ac roedd Romania'n simsanu.

O fewn ychydig funudau fe gafodd Cymru gic o'r smotyn. Am gyfle!

Roedd Paul Bodin yn cymryd ciciau o'r smotyn yn gyson i'w glwb ac roedd wedi sgorio deirgwaith o'r smotyn i Gymru.

'Hanes yw hanes'

Fe darodd Bodin y trawst, ac mae Terry Yorath yn cofio'r gweddill yn rhy dda.

"Rwy'n sicr pe byddai'r gic wedi mynd i mewn fe fydden ni wedi ennill y gêm.

"Pan fethon ni fe roddodd hynny hwb i Romania ac fe aethon nhw ymlaen i gael un arall - hanes yw hanes.

yorathFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Gêm Romania oedd yr olaf i Terry Yorath fel rheolwr Cymru

"Dyna oedd y gêm olaf i fi fel rheolwr, ac rwy'n dal yn flin na chefais y cyfle i gario 'mlaen. Roedd gormod o bobl o fewn Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn fy erbyn.

"Ond fedra i bob tro ddweud mod i wedi bod yn gapten ar fy ngwlad ac wedi bod yn rheolwr ar fy ngwlad.

"Heblaw am fy mhlant, doed dim byd mewn bywyd wedi rhoi mwy o bleser na balchder i mi."

Fe aeth Romania ymlaen i'r rowndiau terfynol yn yr Unol Daleithiau yn haf 1994 gan greu ambell sioc wrth gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Fe aethon nhw allan yn y rownd honno... ar ôl methu cic o'r smotyn!