Amgueddfa Cymru: 'Dadl am dâl yn peryglu'n cyllid'

  • Cyhoeddwyd
Amgueddfa Cymru

Mae pennaeth Amgueddfa Cymru yn dweud bod dadl am dâl penwythnos i staff yn rhoi cyllid y sefydliad mewn perygl.

Mae'r amgueddfa wedi dechrau trafodaethau unigol gyda staff sy'n cael eu heffeithio gan y cynllun i gael gwared ar dâl ychwanegol, ar ôl i drafodaethau gydag undeb y PCS fethu.

Gall staff sydd ddim yn cytuno i'r newidiadau wynebu gael eu diswyddo a chael cynnig y swydd yn ôl ar dermau newydd.

Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson bod y methiant i ddarganfod datrysiad i'r ddadl yn golygu bod yr amgueddfa yn defnyddio cyllid wrth gefn i'w wario ar gostau.

'70,000 y mis'

"Rwy'n meddwl bod rhaid i ni ddod a hyn i ben," meddai.

"Mae gennym ni staff yn dod i mewn yn gofyn a allan nhw gytuno i'n cynnig. Ag o ran cyllid yr amgueddfa, mae pob mis sy'n pasio heb ddatrysiad yn costio £70,000 o'n cyllid wrth gefn.

"Yn syml, ni allwn ni fforddio i barhau gyda'r ddadl, ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ddatrysiad.

"Os na wnawn ni, mae'n rhoi cyllid yr amgueddfa mewn perygl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae staff wedi bod yn streicio yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis

Fel rhan o'r cytundeb i ddod a thâl ychwanegol am weithio penwythnosau a gŵyl y banc i ben, mae'r amgueddfa yn cynnig swm sy'n cyfateb â gwerth dwy flynedd o dâl ychwanegol.

Dywedodd PCS Cymru nad oes neb o'i aelodau wedi derbyn cynnig yr amgueddfa hyd yn hyn, a'i fod yn barod i ailddechrau trafodaethau i ddod a'r ddadl i ben.

Mae aelodau undeb PCS yn cynnal streiciau ger safleoedd Amgueddfa Cymru pob penwythnos, ac maen nhw wedi bod yn gweithredu'n ddiwydiannol am dros ddwy flynedd.