Plannu hadau gwyddonol yn Llandaf
- Cyhoeddwyd
Mi fydd 'na barsel anarferol yn cyrraedd Ysgol Pencae,Llandaf ar 18 Ebrill. Does 'na ddim yn arbennig o gyffrous mewn pecyn o hadau meddech chi, ond mae hwn wedi teithio yr holl fordd o'r gofod!
Mae'r ysgol yn rhan o arbrawf 'Rocket Science' , dolen allanolsy'n cael ei drefnu gan y Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol (RHS) ac Asiantaeth Ofod Prydain.
Pan aeth y gofodwr Tim Peake i'r gofod mi aeth a hadau gyda fo ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol cyn eu hanfon yn ôl i'r ddaear.
Bydd disgyblion mewn nifer o ysgolion, gan gynnwys Ysgol Pencae, yn tyfu'r hadau yn yr ysgol ochr yn ochr gyda phecyn o hadau sydd ddim wedi bod cweit mor bell.
Fel rhan o astudiaethau gwyddonol yr ysgol mi ddaeth ymwelydd byd enwog i Bencae yn ddiweddar i geisio ysbrydoli'r gwyddonwyr ifanc. Un o edmygwyr mwyaf y cemegydd Syr John Meurig Thomas, yw Haf Hayes, sy'n dysgu gwyddoniaeth yn yr ysgol. Bu disgyblion Blwyddyn 5 yn dweud rhagor wrth Cymru Fyw am yr ymweliad.
"Fe fuom ni'n casglu gwybodaeth amdano ac yn ceisio darganfod pam fod ein hathrawes cynradd ni yn edmygu cemegydd o fri?
"Ar ôl trafod ac ymchwilio am amser, fe ddaeth yr ateb i ni'n glir fel cloch - mae Mrs Hayes wrth ei bôdd yn coginio ac mae Cemeg yn debyg iawn wrth gwrs i goginio wrth i chi gymysgu defnyddiau gyda'i gilydd i greu defnyddiau newydd.
"Roeddem ni wedi cyffroi i gael cwrdd ac arwr ein hathrawes. Roedd rhaid bachu ar y cyfle i ofyn ambell i gwestiwn ac i dynnu llun.
"Cawsom sgwrs ddiddorol iawn ganddo: Dwedodd mae ei hoff offer gwyddonol yw'r meicrosgop drydanol er mwyn gallu gweld pethau'n fwy clir a manwl.
"Fe wnaeth e gyfadde pan roedd e'n n blentyn, nad oedd e yn ffan mawr o wyddoniaeth. Ro'dd e wrth ei fodd gyda rygbi, dramâu a chanu. Adroddodd hanesion i ni hefyd am yr arbrofion gwyddonol perycla' a fu.
"Mae Syr John Meurig Thomas yn crwydro'r byd yn sbarduno gwyddonwyr o bob oed. Wyddoch chi hefyd bod mwyn (mineral) wedi ei enwi ar ei ôl, sef Meurigite?
Roedd hi felly yn fraint cael gwrando arno'n sgwrsio. Rydym yn falch iawn ei fod wedi taro i mewn. Dyna beth oedd diweddglo arbennig i'r Wythnos Wyddoniaeth."
"Diolch i bawb a fu'n helpu i drefnu Wythnos Wyddoniaeth, dolen allanol fythgofiadwy y ni ym Mhencae eleni."
"Rydym yn sicr wedi cael ein hysbrydoli ac yn dwlu ar Wyddoniaeth hyd yn oed yn fwy fyth nawr."