Yr heddlu'n taclo modurwyr sy'n goryrru yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymuno ag ymgyrch Ewropeaidd i daclo modurwyr sy'n goryrru.

Fe fydd ymgyrch TISPOL (Rhwydwaith Heddlu Traffig Ewrop) yn cael ei gynnal trwy'r wythnos hon, gyda'r llu'n cynnal gwiriadau cyflymder ar hap.

Bydd y llu hefyd yn patrolio a monitro cyflymder ar y ffordd sy'n cael ei hadnabod fel y 'Triongl EVO' yn Sir Ddinbych - ardal sy'n pryderu trigolion lleol.

Dywedodd y prif arolygydd Darren Wareing o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu'r Gogledd: "Rydym eisiau gweithio gyda gyrwyr a dyna pam 'da ni'n rhoi rhybudd ymlaen llaw am yr ymgyrch hon.

"Bydd y rhai hynny sy'n penderfynu anwybyddu'r cyfyngiadau cyflymder yn cael eu herlyn am eu gweithredoedd."