Nid rhif wyf i

  • Cyhoeddwyd
Mae ar eich hôl chi!
Disgrifiad o’r llun,

Ail greu golyfgfa o'r bennod 'Checkmate'

Dyn yn ceisio dianc rhag pêl wen enfawr. Golygu rhywbeth i chi? Wel, heidiodd mwy na 1,500 o bobl i Bortmeirion dros benwythnos 16-17 Ebrill i ddathlu 50 mlynedd ers ffilmio'r gyfres deledu 'The Prisoner'.

Daeth dros 100 o aelodau Six of One, clwb gwerthfawrogi'r gyfres, dolen allanol, ynghyd i ail-greu rhai o olygfeydd mwyaf eiconig y gyfres swreal o'r 60au.

Cant o falwnau

O bosib, uchafbwynt y dydd oedd ymddangosiad Rover, y bêl wen fawr, fyddai'n cwrso a dal seren y sioe, Patrick McGoohan, wrth iddo geisio dianc o'r pentref.

Yn wreiddiol yn y gyfres, roedd Rover yn ddarn o beirianwaith cymhleth ac yn wir roedd y cynhyrchwyr wedi creu rhyw fath o long hofran oedd yn medru hedfan ar wyneb y dŵr, y tir a chodi o'r dŵr yn fygythiol.

Yn anffodus, ar ddiwrnod cyntaf y ffilmio, aeth y Rover ar y dŵr a diflannu dan y wyneb.

I geisio datrys y broblem aeth rheolwr cynhyrchu'r gyfres i'r orsaf dywydd agosaf, a dod nôl gyda chant o falwnau, o wahanol feintiau, a rhain erbyn hyn yw rhai o ddelweddau mwyaf cofiadwy y gyfres.

Disgrifiad o’r llun,

Gorymdaith yr etholiad, o'r bennod 'Free For All', yn cael ei ail greu gan aelodau Six of One

Yr actores Denise Buckley, a ymddangosodd yn y bennod 'Dance of the Dead', oedd y gwestai anrhydeddus. Cafodd ei golygfeydd hi eu ffilmio mewn stiwdio felly hwn oedd ei hymweliad cyntaf â Phortmeirion.

Ond pam fod pobl dal yn dathlu cyfres sydd, i lawer, wedi'i anghofio?

"Roedd y gyfres yn un flaengar iawn," meddai Alan Beale, trefnydd confensiwn 'Six of One'. "Fe wnaeth hi ragweld llawer o bethau sydd gyda ni yn ein cymdeithas heddiw - er enghraifft, camerâu gwyliadwriaeth a ffonau di-wifr.

"Fe wnaeth y gyfres ysgogi trafodaeth a dadl yn ei dydd sydd yn dal i fod yn berthnasol heddiw."

Disgrifiad o’r llun,

Abby Waysdorf (ar y dde) sy'n ysgrifennu doethuriaeth ar y rhaglen

Mae pobl o bob cwr o'r byd yn dod i Bortmeirion i'r confensiwn, ac hanner canrif yn ddiweddarach mae'r gyfres yn dal i ddenu dilynwyr newydd nad oedd wedi eu geni pan oedd hi ar ei hanterth ar y teledu.

Un o'r rhain yw Abby Waysdorf, myfyrwraig 30 oed o Colorado, yn yr Unol Daleithiau.

"Rwyf wrth fy modd gyda'r awyrgylch yma, ond y prif reswm pam fy mod i yma yw i ymchwilio ar gyfer doethuriaeth ar y rhaglen."

Rhyfedd ond rhyfeddol

Mae'r confensiwn hefyd yn denu pobl adnabyddus sydd wedi gwirioni ar y gyfres ac ar Bortmeirion. Yn eu plith mae'r ffotograffydd Mike McCartney, brawd iau Paul McCartney. Mae'n paratoi arddangosfa a llyfr am hud Portmeirion:

"Pan adewais Lerpwl roedd hi'n bwrw glaw, ond pan gyrhaeddais bentref prydferth Portmeirion, roedd heulwen a thywalltiad o gariad ac hapusrwydd."

Fe wnaeth y cerddor Martyn Ware ei enw fel aelod o 'Human League' a 'Heaven 17' yn yr 80au. Mae e wedi creu sain tri dimensiwn ar gyfer y pentref sy'n seiliedig ar synau, cerddoriaeth a deialog o 'The Prisoner'. Cafodd ei greadigaeth ei chwarae ar yr awr o dan bont y pentref yn ystod y confensiwn.

"Yn wreiddiol, fe ddes i Bortmeirion fel plentyn a meddwl ei fod yn le rhyfedd ond rhyfeddol," meddai Martyn, sydd hefyd yn aelod brwd o Six of One. "Mae'r bobl yma'n wych."

Disgrifiad o’r llun,

Martyn Ware (pellaf ar y chwith) a Mike McCartney (agosaf i'r camera)