Gwerthu cwt môr yn Abersoch am £153,000

  • Cyhoeddwyd
Cwt AbersochFfynhonnell y llun, Countywide Property Auctions
Disgrifiad o’r llun,

£85,000 oedd y pris amcan am y cwt

Mae cwt glan môr yn Abersoch wedi ei werthu am £153,000 mewn arwerthiant yn Llundain.

Y pris amcan am y cwt, sy'n 12 x 9 troedfedd o faint, oedd £85,000.

Dywedodd yr arwerthwr, Tony Webber o gwmni Beresford Adams Countrywide Auctions ei fod yn "gwbl anghredadwy".

Ychwanegodd: "Roedd dau brynwr oedd yn benderfynol iawn, y ddau o ardal Sir Caer, oedd yn gwneud cynigion ar wahân.

"Roedden nhw'n benderfynol iawn o'i brynu.

"Dyma'r pris mwyaf i unrhyw un ei dalu ar gyfer cwt glan môr yn Abersoch."

Dywedodd Mr Webber bod angen gwneud ychydig o waith cynnal a chadw ar y cwt, ond bod y pris yn cynnwys "rhan o'r traeth rhwng y cwt a'r môr".