Cyngor Conwy i drafod problem gwylanod
- Cyhoeddwyd

Bydd cynhorwyr Conwy yn cwrdd ddydd Iau i drafod problemau sy'n cael eu hachosi gan wylanod yn yr ardal.
Mae yna gwyno yng Nghonwy a Llandudno fod yr adar yn dwyn bwyd wrth i bobl fwyta yn yr awyragored, a'u bod ar adegau'n ymddwyn yn fygythiol ac yn dychryn pobl.
Mae yna y bryder y gallen nhw hyd yn oed achosi niwed.

Mae yna gwyno fod gwylanod yn dwyn bwyd ac yn dychryn pobl.
Bwriad y pwyllgor craffu cymunedau yw ystyried ffyrdd o reoli'r gwylanod, gan cynnwys y posiblrwydd o'i gwneud hi'n drosedd i'w bwydo nhw mewn ardaloedd trefol.
Camau eraill sydd dan ystyriaeth yw gosod biniau mwy diogel, fel na all gwylanod ddwyn bwyd, a sicrhau nad yw'r adar yn cael eu denu gan weddillion bwyd ar y llawr.