Angharad Mair yn chwalu record ym marathon Llundain

  • Cyhoeddwyd
Angharad MairFfynhonnell y llun, Angharad Mair
Disgrifiad o’r llun,

Angharad Mair gyda'i medal ar ôl cwblhau Marathon Llundain.

Mae'r rhedwraig a'r gyflwynwraig Angharad Mair wedi chwalu record Prydain yn y ras i fenywod dros 55 oed ym Marathon Llundain.

Llwyddodd i gwblhau'r ras 26 milltir gydag amser o 2 awr 57 munud a 46 o eiliadau, chwe munud yn gyflymach na'r hen record.

Wrth ddisgrifio'i theimladau, dywedodd ei bod hi'n wirioneddol falch fod popeth wedi mynd yn iawn: "Ro'n i'n gwybod y bydden i'n gallu torri'r record heddi, achos y ffordd dwi wedi bod yn rhedeg dros yr wythnosau diwetha."

"Roedd yr 20 milltir cynta'n iawn, ond roedd y chwe milltir olaf... wel, roedd e'n teimlo fel tase hewlydd Llundain wedi troi'n fwd. Ro'dd yn rhaid i fi arafu a chanolbwyntio ar bob cam."

Marathon Llundain

Mae Angharad wedi rhedeg sawl marathon dros y blynyddoedd, a dyma'r trydydd tro iddi redeg marathon Llundain.

"Ro'n i'n ffeindio eleni yn anodd achos mod i'n teimlo mod i'n rhedeg i mewn i'r gwynt, ond o'n i'n gwybod mod i wedi torri'r record wrth groesi'r llinell.

'Profiad anhygoel'

Er ei bod hi'n cyfaddef nad yw'r un marathon yn hawdd, mae'n dweud fod y profiad yn anhygoel.

"Beth sy'n wych am farathon yw bod pawb yn mynd drwy'r un profiad, hyd yn oed rheina sy'n ei rhedeg mewn pump neu chwech awr, mae pawb yn gwneud y gorau maen nhw'n gallu.

"Roedd y dorf yn anhygoel. Roedd miloedd o bobl ar hyd y ffordd. Roedd y sŵn yn anghredadwy, a bob hyn a hyn, o'n i'n gweld pobl â'r ddraig goch a cwpwl o bobl o'n i'n nabod yn galw'n enw i. Roedd e'n anhygoel."

Ond o ofyn pryd fydd hi'n rhedeg ei marathon nesa, mae'n oedi.

"Fydda i ddim yn rhedeg marathon am sbel. Fi ddim hyd yn oed yn mynd i feddwl am wisgo par o trainers am wythnosau!"