Ymgeisydd Plaid Cymru yn amddiffyn sylwadau 'eithafol'

  • Cyhoeddwyd
arfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Arfon Jones wedi disgrifio'i sylwadau fel "banter"

Mae ymgeisydd Plaid Cymru i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd wedi dweud mai "joc" oedd neges Twitter ganddo yn annog pobl i "gadw GCHQ yn dawel" drwy yrru e-byst yn cynnwys y geiriau "bom, terfysgwr ac Iran".

Dywedodd Arfon Jones mai "banter" oedd y sylw wrth ymateb i gynigion Llywodraeth y DU i roi mwy o bwerau gwyliadwriaeth i'r gwasanaethau diogelwch.

Mae Mr Jones, ymgeisydd y blaid yn y gogledd yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd, hefyd wedi amddiffyn negeseuon Twitter eraill ganddo oedd yn feirniadol o ymosodiadau o'r awyr gan y DU yn Syria.

Ychwanegodd nad oedd yn cofio cyhoeddi sylw sarhaus am David Cameron.

Wedi 'synnu'

Yn ôl cyn ysgrifennydd Cymru a'r AS Ceidwadol, David Jones, roedd wedi ei "synnu" ar ôl gweld negeseuon Arfon Jones.

Mewn neges drydar ar 1 Ebrill 2012, fe ysgrifennodd Arfon Jones: "I think we should have a protest where thousands of us send emails containing the words bomb+terrorist+Iran. That should keep GCHQ quiet."

Dywedodd wrth BBC Cymru fod gan y gwasanaethau cudd "ddigon o bwerau yn barod".

Mae Mr Jones yn gynghorydd yn Wrecsam, yn gyn brif arolygydd yng ngogledd Cymru ac fe wnaeth ymddeol yn 2008 ar ôl 30 mlynedd gyda'r heddlu.

'Pryder'

Cyn uwch gynhadledd Nato yng Nghasnewydd yn 2014, dywedodd bod codi lefel y rhybudd am derfysgaeth yn "ironic", gan ychwanegu: "Nato countries created Islamic State after all."

Mewn neges trydar arall fis Gorffennaf diwethaf am ymosodiadau o'r awyr yn Syria, dywedodd: "UK created ISIS/ISIL so let's bomb them!"

Mewn datganiad, dywedodd Mr Jones: "Roedd y sylwadau yma'n ymwneud â fy mhryder i bod rhagor o ymyrraeth filwrol gan y Gorllewin yn y Dwyrain Canol yn arwain at ragor o radicalieiddio ac yn dwysau'r trais yn y rhanbarth.

"Ar ben hynny, byddai ymyrraeth yn cynyddu'r bygythiad i'n diogelwch ni yma gartref ac yn gwneud ymosodiadau terfysgol yn y Deyrnas Unedig yn fwy tebygol.

"Fe wnaeth cyn bennaeth MI5, Eliza Manningham-Buller, gyfaddef y byddai ymyrryd yn Irac wedi radicaleiddio llawer o Fwslemiaid ifanc a welodd y rhyfel fel ymosodiad ar eu crefydd.

"Hyd yma, mae ymosodiad o'r awyr gan wledydd tramor wedi lladd 2,000 o sifiliaid yn Syria. Mae'n glir bod yr ymyrraeth wedi arwain at ragor o dywalld gwaed ac ansefydlogrwydd ac rwy'n dal i gredu hynny."

'Eithafol'

Dywedodd AS Gorllewin Clwyd, David Jones: "Dyma farn eithafol iawn ac nid rhywbeth mae pobl yn disgwyl gan ddyn sydd eisiau bod yn gyfrifol am yr heddlu yng ngogledd Cymru.

"Mae'n rhaid i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, nawr ddweud os ydi hi a'i phlaid yn parhau i gefnogi Arfon Jones o ystyried natur eithafol ei farn.

"Os ddim, yna mae'n rhaid iddi ddweud p'unai ydi hi'n bwriadu parhau iddo ymladd yr etholiad o dan faner ei phlaid."

Mewn ymateb, dywedodd Leanne Wood: "Ni allai ddweud fy mod i'n dilyn llinell amser Twitter pawb. Ond mae digonedd o bobl ar wefannau cymdeithasol gyda phob math o farn liwgar.

"Ac rwy'n siŵr nawr fod y rôl y mae Arfon Jones wedi ymgymryd â hi ar ran Plaid Cymru fe fydd ei linell amser Twitter efallai'n agosach at y rôl y mae'n ceisio cael ei ethol i'w wneud."