Sefydlu traeth di-fwg ym Mae Caswell, Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae traeth ger Abertawe wedi ei ddynodi fel yr ail draeth di-fwg yng Nghymru.
Fe wnaeth cyngor dinas Abertawe ddewis traeth Bae Caswell yn ne-ddwyrain Penrhyn Gwyr ar gyfer y cynllun peilot, am ei fod yn boblogaidd gyda theuluoedd.
Dyma'r ail draeth yng Nghymru lle mae na waharddiad gwirfoddol mewn grym.
Traeth Little Haven yn Sir Benfro oedd y cyntaf o'i fath.
Dywedodd y cynghorydd Mark Child, aelod o gabinet cyngor Abertawe: "Rydym yn ceisio lleihau smygu o gwmpas plant.
''Mae stwmps sigarét yn cyfrannu'n helaeth at sbwriel ar draethau hefyd, felly fe fydd hyn yn arwain at amgylchedd iach a glan pan fyddwn yn ymweld â'r traeth.''

Nid yw'r mudiad ysmygu, Forest, yn cyd-fynd a'r penderfyniad. Dywedodd y cyfarwyddwr Simon Clark: "Mae'r cyngor yn trin oedolion fel plant. Erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n ysmygu yn gwybod i ystyried pawb sy o'u cwmpas cyn smocio.''
Dywedodd Suzanne Cass, prif weithredwr Ash Cymru: "Ry ni'n gwybod bod gweld rhywun yn smocio yn dylanwadu'n fawr ar bobl ifanc ac mae'n holl bwysig i ni wneud unrhywbeth rhag normaleiddio smocio.''