Gwerthu gwin o Gymru i Ffrainc a dysgu gwersi o Ganada?

  • Cyhoeddwyd
Ffarm
Disgrifiad o’r llun,

Gwinwydd ar ffarm Richard Morris

Fe allai fod 50 o winllannoedd yng Nghymru yn ystod yr 20 mlynedd nesaf yn ôl un dyn sydd wedi dechrau gwerthu ei win i Ffrainc.

Mae gan Richard Morris winllan ger Trefynwy ac mae'n dweud bod gwledydd eraill gyda hinsawdd tebyg fel Nova Scotia yng Nghanada wedi llwyddo i ddatblygu diwydiant gwin llwyddiannus.

Mae ei win wedi ennill gwobrau mewn cystadleuaeth lle mae pobl yn gorfod blasu'r gwin yn ddall a hynny yn erbyn labeli enwog Champagne.

Yn ôl Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru mae yna tua 17 o winllannoedd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dywedodd Richard Morris: "Rydyn ni'n darogan erbyn 2035 y bydd ganddon ni rhwng 4 a 6 o windai yng Nghymru a thua 50 o winllannoedd. Mae hynny wedi ei selio ar y twf yn y diwydiant gwin yn Nova Scotia er enghraifft."

"Chi'n meddwl, 'does bosib eu bod nhw'n gallu tyfu gwinwydd yn fanno a gwneud gwin' ond maen nhw'n cynhyrchu 1.8 miliwn o boteli o win y flwyddyn.

"Mae'r hinsawdd bron union yr un peth a Chymru. Mae'n ddiwydiant twristiaeth enfawr ac mae'n ddiwydiant mawr yno. Mi allith Cymru gyrraedd y lefel yna yn gyflym o fewn deg i 15 mlynedd."

Mae'r cwmni yn ddiweddar wedi dechrau cyflenwi ei gwin ar gyfer cyfanwerthwr yn ardal Bordeaux, Ffrainc, ardal sydd yn enwog am ei gwin.

"Dw i'n gwybod bod pawb yn chwerthin pan maen nhw'n clywed hyn ond dyna'r gwir plaen. Mi ydyn ni wedi cael gwybod bod cyflenwr yn Bordeaux eisiau gwerthu ein gwin, cyflenwr sydd a ddordeb mewn gwerthu gwin da o lefydd o gwmpas y byd."

Mae hanes Richard Morris ar raglen Country Focus, BBC Radio Wales am 07.03 bore dydd Sul.