Gardd Fotaneg: Cyfarwyddwr newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi penodi eu Cyfarwyddwr newydd.
Mae Huw Francis, sy'n wreiddiol o Abertawe, wedi bod yn Brif Weithredwr ar sefydliad o dirfeddianwyr cymunedol mwyaf Yr Alban - Stòras Uibhist, yn yr Ynysoedd Heledd Allanol, dros y naw mlynedd diwethaf.
Mae hefyd wedi bod yn gweithio fel Cynghorwr Masnach Ryngwladol i Adran Busnes Rhyngwladol, Llywodraeth Cymru ers pum mlynedd.
Bu hefyd yn gweithio i sefydliadau yn Hong Kong, Twrci a Ffrainc, ac mae hefyd yn awdur ar nifer o lyfrau cyhoeddedig.
Derbyniodd Mr Francis, sy'n beiriannydd graddedig, ei addysg yn Ysgol Gyfun Olchfa a Phrifysgol Cranfield.
Dywedodd: "Mae'n wych fy mod yn cael cyfle i ddychwelyd i Gymru, ac i weithio mewn lle mor ardderchog. Edrychaf ymlaen yn fawr i'r her ac i weithio efo tîm yr Ardd."
Meddai Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Ardd, Rob Jolliffe: "Rydym wrth ein bodd bod Huw yn ymuno â ni. Bydd wir yn ased wrth i ni edrych at fynd a'r Ardd ymlaen i'r dyfodol."
Fe fydd Mr Francis yn dechrau ar ei swydd ar 13 Mehefin.