Oedi wrth werthu pier Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae'r broses o werthu pier gwerth £1.25m yng Ngheredigion yn cael ei arafu gan bobl yn "gwastraffu amser" meddai'r gweinyddwyr sy'n ceisio gwerthu'r safle.
Fe gafodd y gweinyddwyr, Begbies Traynor eu galw i reoli gwerthiant y Pier yn Aberystwyth, ym mis Mawrth 2015.
Ond dywedodd John Kelly ei bod yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl oherwydd bod y pier wedi ei adeiladu ar stiltiau yn y môr, ac felly bod prynwyr yn cael trafferth dod o hyd i fenthycwyr.
Ychwanegodd hefyd fod 'na nifer o bobl wedi bod yn "gwastraffu amser."
Mae'r adeilad rhestredig Gradd II yn gartref i nifer o fusnesau bach, gan gynnwys clwb nos, arcêd, tafarn a bwyty.
"Mae nifer o bobl wedi bod â diddordeb yn y pier, ac mae rhai yn parhau i fod â diddordeb," meddai Mr Kelly .
"Mae'n strwythur unigryw, sy'n ei gwneud yn fwy o her i bobl ddod o hyd i gyllid. Mae hefyd yn cael ei hadeiladu ar stiltiau yn y môr, felly mae mynediad ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn gallu bod yn heriol."
"Rwy'n dal yn ffyddiog y byddwn yn dod o hyd i brynwr addas, ond ei bod yn cymryd mwy o amser nag y byddwn fel arfer yn disgwyl."