Ethol Comisiynydd Heddlu newydd dros ardal gogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Arfon Jones
Disgrifiad o’r llun,

Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd ar gyfer ardal gogledd Cymru.

Arfon Jones ydi Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd ar gyfer ardal gogledd Cymru. Mae Mr Jones yn cynrychioli Plaid Cymru ac mae'n gyn heddwas.

Doedd yr ymgeisydd diwethaf i fod yn gomisiynydd ar gyfer yr ardal, Winston Roddick, ddim wedi ceisio cael ei ail-ethol y tro hwn.

Julian Sandham, ymgeisydd annibynnol; David Taylor o Lafur Cymru; Simon Wall o UKIP Cymru a Matt Wright, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig oedd yr ymgeiswyr eraill oedd yn sefyll yn erbyn Mr Jones.

Mae modd i chi ddarllen holl ganlyniadau'r etholiad am Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd dros y pedair ardal wahanol o Gymru drwy glicio yma.

Cafodd y bleidlais i ddewis comisiynydd newydd ei chynnal yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad ar ddydd Iau 5 Mai, mewn ymgais i gynyddu canran y rhai oedd yn pleidleisio o'i gymharu â 2012.

Y tro hwn fe wnaeth 43.78% o bobl yn y gogledd bleidleisio i ethol comisiynydd newydd. 14.83% oedd y ganran yn 2012.

Canlyniad y bleidlais rhwng y ddau geffyl blaen yn y ras, ar ôl cyfrif y ddwy rownd o bleidleisiau oedd:

Arfon Jones, Plaid Cymru - 90,228

David Taylor, Llafur - 64,864

Disgrifiad o’r llun,

Cyfrif y pleidleisiau yng Nglannau Dyfrdwy

Canlyniadau

Mr Jones ydi'r ail ymgeisydd o Blaid Cymru i brofi llwyddiant yn etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd eleni wedi i Dafydd Llywelyn gael ei ethol fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd dros ardal Dyfed Powys.

Wrth ymateb i fuddugoliaeth Mr Jones a Mr Llywelyn, dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru:

"Mae pobl yn Nyfed Powys a Gogledd Cymru wedi pleidleisio dros dryloywder ac atebolrwydd yn eu gwasanaethau cyhoeddus. Maent wedi pleidleisio dros roi rheolaeth dros blismona yn nwylo'r Cynulliad. Ym mhob rhanbarth plismona mae Plaid Cymru wedi sicrhau canlyniadau cryf, ac rwy'n llongyfarch Dafydd Llywelyn ac Arfon Jones ar eu llwyddiant.

"Mae gennym nawr dim newydd o gynrychiolwyr etholedig Plaid Cymru ledled y wlad sy'n barod i weithio'n ddiflino dros bobl Cymru bob dydd. Bydd Arfon a Dafydd yn gweithio i sicrhau atebolrwydd democrataidd llawn yr heddlu drwy ein haelodau etholedig yn y Cynulliad, fel sydd wedi ei gytuno gan yr holl bleidiau drwy broses y Comisiwn Silk."

Mae Jeff Cuthbert wedi ei ethol fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar gyfer ardal Gwent, ac mae Alun Michael yn parhau fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru wedi iddo gael ei ail-ethol dros y rhanbarth.

Heddlu Gogledd Cymru

Wrth wasanaethu poblogaeth o 675,000 o bobl mae'r llu yn gwasanaethu ardal o 6,300 cilomedr sgwâr. Y prif gwnstabl presennol yw Mark Polin, sydd wedi gwasanaethu yr ardal ers 2009.

Mae yna 1,454 o swyddogion, 888 o staff a 232 o swyddogion cymorth cymunedol.

Cyfanswm y gyllideb ar gyfer 2016/17 yw £141m. Ar hyn o bryd mae'r heddlu yn rhagweld arbed £4.54m rhwng 2017/18 a 2019/20.

Praesept yr heddlu - yr arian sy'n mynd yn syth i'r llu - ar gyfer eiddo Band D yw £240.12.

Dyma'r uchaf yng Nghymru, o'i gymharu â £220.06 yng Ngwent, £207.85 yn Ne Cymru a £200.07 yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.

Roedd 36,800 o droseddau yng ngogledd Cymru yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi 2015.

Roedd cynnydd bychan o 1% ers y flwyddyn flaenorol, y cynnydd lleiaf yn nifer y troseddau a gofnodwyd yng Nghymru ar gyfer y cyfnod hwnnw.