Ehangu ysgol i ateb y galw am addysg Gymraeg yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Plas CochFfynhonnell y llun, Google

Mae Cyngor Wrecsam wedi pleidleisio i gynyddu'r nifer o lefydd sydd ar gael i blant yn ysgol gynradd Gymraeg y dref.

Oherwydd y galw am addysg Gymraeg yn Wrecsam, mae'r awdurdod wedi cytuno i ehangu Ysgol Plas Coch a gwneud lle i 15 o ddisgyblion ychwanegol pob blwyddyn.

Pan adeiladwyd Plas Coch roedd lle ar gyfer 210 o blant. Dros gyfnod o amser roedd y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn golygu bod yn rhaid gosod ystafelloedd ddosbarth dros dro ar safle'r ysgol gan gynyddu'r nifer o ddisgyblion yno i 420.

Sefydlwyd ysgol newydd Gymraeg, Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt, yn 2013 i ateb yr alwad gynyddol am addysg Gymraeg yn yr ardal ac fe ddisgynnodd y nifer o blant yn Ysgol Plas Coch i 315.

Ond mae'r galw yn parhau a nawr mae'r awdurdod wedi penderfynu adeiladu pedwar dosbarth ychwanegol ar safle Plas Coch. Bydd hyn yn gwneud lle i 45 plentyn pob blwyddyn - 15 yn ychwanegol i'r 30 gaiff eu derbyn pob blwyddyn fel arfer.