Cais i ohirio'r hawl i brynu tai cyngor yn sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
TAI

Mae Cyngor Sir Ddinbych am gyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am ganiatâd i ohirio'r hawl i brynu cartrefi cyngor yn y sir am gyfnod o bum mlynedd.

Yn ôl y cyngor mae'r cynllun Hawl i Brynu wedi lleihau stoc dai'r awdurdod yn sylweddol - colled o fwy na 4,000 o gartrefi.

Yn 2015/16 mi gollodd y Cyngor wyth o dai i'r cynllun Hawl i Brynu a thra bod y Cyngor yn bwriadu cynyddu ei stoc dai dros y blynyddoedd nesaf, bydd 'unrhyw golled o gartrefi i'r cynllun Hawl i Brynu yn lleihau'r budd o gael unrhyw dai newydd ychwanegol yn sylweddol.'

Bydd y cais yn cael ei gyflwyno yn dilyn penderfyniad gan aelodau Cyngor Sir Ddinbych mewn cyfarfod yn Rhuthun ddydd Mawrth.

Mae'r cynllun Hawl i Brynu yn rhoi hawl i denantiaid cyngor cymwys brynu eu tŷ gan y cyngor am bris gostyngol.

Dywedodd y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Dai: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo yn ei Strategaeth Dai i ddarparu mwy o dai er mwyn cwrdd â'r angen lleol ac i greu cyflenwad o gartrefi fforddiadwy, eto i gwrdd â'r galw.

Ychwanegodd bod y cyngor yn symud ymlaen gyda chynlluniau adfywio drwy brynu tir ar gyfer datblygu cartrefi newydd.

''Ond mi fydd y buddsoddiad hwn mewn peryg os yw cartrefi'n cael eu colli drwy'r cynllun Hawl i Brynu'' meddai.