Cynllun diffibrilwyr yn llwyddiant yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i roi diffibrilwyr mewn cymunedau yn Nyffryn Conwy ac Uwch Aled wedi bod yn hynod o lwyddiannus gyda 37 wedi eu gosod hyd yma.
Yn ogystal â hyn, mae cannoedd o bobol wedi cael eu hyfforddi i'w defnyddio ac i berfformio CPR mewn argyfwng.
Grŵp gwirfoddol sy'n gyfrifol am gynllun 'Achub Calon y Dyffryn' a drwy gydweithio gyda Sefydliad Prydeinig y Galon, ac maen nhw wedi llwyddo i gael y teclynau sy'n ail danio'r galon wedi trawiad.
Mae nhw'n galw ar gymunedau eraill drwy Gymru i fabwysiadu'r cynllun.
Pan fydd calon rhywun yn stopio yn annisgwyl, yn aml yn dilyn trawiad, mae'r siawns o oroesi yn lleihau ryw 10-15% am bob munud sy'n mynd heibio heb fod rhywun yn rhoi CPR ac yn defnyddio diffibrilydd.
'Cau'r bwlch amser'
Mewn ardaloedd cefn gwlad mae bron yn amhosib i ambiwlans neu ymatebwyr cyntaf gyrraedd mewn pryd bob amser, felly mae lleoli diffibrilwyr yn lleol yn cau'r bwlch amser yna ac yn cynyddu'r siawns o oroesi yn sylweddol.
Mae'r grŵp yn cynnwys dau Barafeddyg lleol, sef Rhydian Owen a Gemma Neale, ac Ymatebwr Cyntaf yn ardal Uwch Aled, Tomos Hughes. Rhan o'u gwaith yw sicrhau fod y dyfeisiau yn cael eu gwarchod, a phan fydd angen eu gwasanaethu ac ati.
Pan roedd y grŵp yn dechrau dim ond llond llaw o ddiffibrilwyr cyhoeddus oedd ar gael yn y dyffryn, ond erbyn hyn mae dyfeisiau wedi eu lleoli mewn dros 30 o lefydd yn yr ardal.
Mae'r mwyafrif o'r diffibrilwyr ar gael mewn blychau allanol 24 awr y dydd.
Mae'r blychau wedi cael eu larymu ac maent wedi eu cofnodi gan yr Heddlu fel bod modd eu tracio.
Hyfforddiant
Yn ogystal â lleoli'r unedau yma, mae mwy na 500 o bobl yr ardal wedi cael eu hyfforddi i weinyddu CPR ar oedolion a phlant yn ogystal â defnyddio'r peirianau i achub bywyd.
Hyd yma mae pedwar o'r teclynau wedi cael eu defnyddio mewn argyfyngau.
Mae cynlluniau ar y gweill i osod diffibrilwyr yn Betws Gwerfyl Goch, Melin y Wîg, Llanbedr Y Cennin, Dolgarrog, Ty'n Y Groes, Eglwysbach, Gwytherin, Pandy Tudur a Llansannan.