Papur Gwyn siarter y BBC: Cynnwys llais o Gymru
- Cyhoeddwyd
Bydd cynrychiolydd o Gymru yn eistedd ar fwrdd rheoli newydd y BBC, yn ôl cynlluniau Llywodraeth Prydain ar ddyfodol y darlledwr.
Mae'r papur gwyn, sydd wedi ei gyhoeddi cyn adnewyddu siarter frenhinol y BBC yn 2017, yn argymell cynnwys aelod anweithredol ar y bwrdd newydd. O dan y drefn bresennol, mae gan ymddiriedolwr o Gymru sedd ar Ymddiriedolaeth y BBC.
Bydd y strwythur llywodraethu a rheoli presennol yn newid, gyda'r ymddiriedolaeth yn cael ei ddiddymu dan gynlluniau gafodd eu hamlinellu gan yr ysgrifennydd diwylliant, John Whittingdale ddydd Iau.
Mae'r papur gwyn hefyd yn galw ar y BBC i barhau a'i phartneriaeth gydag S4C, er y bydd adolygiad o'r sianel yn 2017 yn penderfynu ar drefniadau'n ymwneud a'i gylch gorchwyl, ei chyllideb a'i hatebolrwydd.
Yn y cyfamser, mae Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall wedi ysgrifennu at arweinwyr y gwledydd datganoledig i ailadrodd ymrwymiad y BBC i'r cenhedloedd.
Mae'r Arglwydd Hall wedi ymrwymo i wario mwy ar raglenni cyfrwng Saesneg a bydd yn penodi comisiynydd fydd yn gyfrifol am ddramâu yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Bydd amcanion hefyd yn cael eu llunio er mwyn gwella'r modd y mae Cymru'n cael ei phortreadu ar raglenni'r rhwydwaith.
'Ymrwymiad'
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Swyddfa Cymru y bydd y cynlluniau'n sicrhau fod "cynulleidfaoedd Cymru'n cael eu gwasanaethu'n well".
Mae'r llywodraeth hefyd yn addo "parhau i ymrwymo i ddarlledu yng Nghymru", ac mae cynlluniau i roi rhai pwerau i Lywodraeth Cymru i wneud y BBC yn atebol iddyn nhw.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: "Mae'r Papur Gwyn yn diogelu dewis ac yn sicrhau fod gan Gymru le ar fwrdd y BBC fydd yn gyfrifol am y gorfforaeth.
"Mae'r ffaith y gall cynhyrchwyr rhaglenni annibynnol nawr wneud cais i gynhyrchu mwy o sioeau'r BBC yn hwb gwych i Gymru, sydd eisoes yn gartre' i rai o'r cwmnïau cynhyrchu mwya' cyffrous ac arloesol."
Croesawu'r mesurau
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones ei fod yn croesawu'r cyfeiriad "penodol a chefnogol at S4C".
"Mae'r cyfeiriadau at sicrhau parhad annibyniaeth S4C dan y drefn newydd, ynghyd â'r bwriad i sicrhau eglurder a sicrwydd cyllido ar gyfer y gwasanaeth, i'w croesawu'n fawr.
"Yn naturiol, bydd disgwyl i'r Adolygiad annibynnol o S4C, sydd i'w gynnal yn 2017, roi sylw mwy manwl i sut yn union y mae hyn yn mynd i gael ei wireddu yn y tymor hir ac fe fyddwn yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y drafodaeth gyhoeddus ynglŷn â'r materion hyn pan ddaw'r amser."
'Cyfle i gynhyrchwyr annibynnol'
Dywedodd Iestyn Garlick, Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC): "Mae TAC yn croesawu'r mesurau hynny sy'n rhoi cyfle i gynhyrchwyr annibynnol i wneud cais i gynhyrchu mwy o raglenni BBC.
"Mae gan y sector annibynnol yng Nghymru record dda ac rydyn ni'n hyderus y gallwn ennill rhagor o gomisiynau ac, felly, galluogi'r BBC i adlewyrchu straeon, safbwyntiau a phobl Cymru yn well i weddill y DU a thu hwnt."
'Bygwth annibyniaeth S4C'
Ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhybuddio y gallai'r newidiadau i'r BBC fygwth annibyniaeth S4C.
Dywedodd Curon Wyn Davies, Cadeirydd Grŵp Digidol y Gymdeithas: "Unwaith eto, mae peryg gwirioneddol y bydd penderfyniadau gan Lywodraeth Prydain sy'n niweidio'r Gymraeg - mae angen datganoli darlledu i Gymru.
"Mae'r cynigion yn awgrymu bygythiad pellach i annibyniaeth S4C. Yn wir, mae 'na beryg mawr y gallai hyn osod cynsail ar gyfer toriadau pellach i'r darlledwr, ac iddi gael ei draflyncu gan y BBC. "