Lluniau: Blas ar fwyd y Cofis
- Cyhoeddwyd

Bwyd da, tywydd da, lleoliad da
Ar benwythnos 13-15 cafodd Gŵyl Fwyd Caernarfon , dolen allanolei chynnal. Dyma i chi damaid blasus o'r digwyddiadau a'r stondinau trwy lens y ffotograffydd Iolo Penri:

"Paid a bod yn swil, tyrd allan o dy gragen"

Maen nhw wedi heidio i G'narfon o Fflostryfan a Fflosgadfan!

Pwy sy'n mwynhau Gŵyl Fwyd Caernarfon?

Ci poeth

Mae hi'n jamborî go iawn yma

Mae 'na ddanteithion ynghanol y dre hefyd

Caws dweud 'na gwneud! Peidiwch â thrio hyn adref!

Job sychedig ydi bwyta!

Gwledd liwgar yng nghysgod y castell

Prifardd y peintiau: Myrddin ap Dafydd ar stondin Cwrw Llŷn

Maes B-wyd

Mae'r arogl da yn denu'r cwsmeriaid

Ciwt! Gobeithio nad oedd rhain ar y fwydlen

Ydy Leusa yn rhoi ambell i dip newydd i Lisa?

Wyneb ffrwythlon

Bryn yn dysgu Dyl Mei sut i wneud wy 'di ffrio?

Ci-mwch olwg ar y pysgod

Plu yn diddanu'r dorf

Arwydd clir o lwyddiant yr Ŵyl

"Iym! Welai chi flwyddyn nesa!"