Prosiect £750,000 i atgyweirio pont Conwy'n dechrau

  • Cyhoeddwyd
Pont Conwy

Mae'r gwaith gwerth £750,000 i atgyweirio un o'r prif bontydd dros Afon Conwy wedi dechrau.

Mae'r bont 300 troedfedd, sydd dafliad carreg o gastell hanesyddol Conwy, yn cysylltu'r dref â Chyffordd Llandudno.

Yn ôl peirianwyr sydd wedi gosod sgaffald dros y bont, mae'n brosiect "cymhleth".

Cael gwared â'r rhwd ar y bont yw un o'r prif heriau, ond mae colomennod hefyd wedi profi'n dipyn o broblem, gyda disgwyl i lond sgip o ddom adar gael ei grafu oddi ar y bont yn ystod y gwaith.

Dywedodd Cyngor Conwy eu bod yn ceisio sicrhau na fydd y gwaith yn effeithio'n ormodol ar draff

Yn ôl un o'r prif beirianwyr ar y prosiect, Owen Conry: "Mae Conwy'n atyniad pwysig i ymwelwyr, felly mae'n flaenoriaeth gennym i osgoi gorfod cau lonydd yn barhaol.

"Bydd lonydd yn cau dros dro heno (nos Fercher) a fory (dydd Iau), ond yn gyffredinol, rydym yn gobeithio na fydd pobl Conwy hyd yn oed yn ymwybodol fod y gwaith yn mynd rhagddo, tan i'r sgaffald gael ei dynnu i lawr ym mis Awst.ig.