Carwyn Jones wedi'i benodi yn Brif Weinidog Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Llafur Cymru, Carwyn Jones wedi ei benodi yn Brif Weinidog Cymru ar ôl i'r blaid Lafur ddod i gytundeb gyda Phlaid Cymru.
Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Frenhines, bydd Mr Jones yn dechrau ffurfio Llywodraeth Lafur lleiafrifol.
Wedi trafod rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, mae'r ddwy ochr wedi dod i gytundeb, er bod y ddwy blaid yn mynnu nad yw'n glymblaid nag yn drefniant ffurfiol.
Dywedodd Mr Jones y byddai Llafur yn ymddwyn gyda "gostyngeiddrwydd", ac na fyddai'n cyflwyno deddfwriaeth yn ystod 100 diwrnod cyntaf y llywodraeth newydd.
Bydd deddfwriaeth ar iechyd cyhoeddus ac anghenion addysgol ychwanegol ymysg y nesaf i gael eu cyflwyno.
Bydd blaenoriaethau ei lywodraeth yn adlewyrchu "canlyniad llwyddiannus Llafur Cymru yn yr etholiad ym mis Mai, a thrafodaethau pellach gyda'r brif wrthblaid, Plaid Cymru," meddai Mr Jones.
Ychwanegodd y bydd prif dargedau ei blaid yn cynnwys "sicrhau dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy ar gyfer dyfodol ein diwydiant dur" ac "ymgyrchu yn groch" am bleidlais i aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.
Dyma oedd yr ail ymgais i gadarnhau enwebiad Mr Jones ers yr etholiad, wedi i Lafur ennill 29 o'r 60 sedd yn y Senedd.
Gorffen yn gyfartal wnaeth y bleidlais gyntaf i gadarnhau Mr Jones wythnos ddiwethaf, gyda'r Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams yn cefnogi'r arweinydd Llafur, a'r pleidiau eraill i gyd yn cefnogi arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Gweithio ar y cyd
Bydd tri phwyllgor newydd yn cael eu ffurfio i'r ddwy blaid drafod gweithio ar y cyd ar gyllideb Llywodraeth Cymru, deddfwriaeth a'r cyfansoddiad.
Ac fe fydd gwaith ar y cyd yn mynd rhagddo er mwyn creu Banc Buddsoddi i Gymru, comisiwn cenedlaethol ar isadeiledd, cynllun i gynyddu nifer y meddygon teulu a hefyd creu cronfa triniaethau newydd yn y Gwasanaeth Iechyd.
Mae bwriad i gyflwyno newidiadau hefyd ym maes gofal plant a phrentisiaethau.
Ond does dim cytundeb ar y cynllun i godi traffordd newydd i'r de o Gasnewydd. Mae'r blaid Lafur o blaid y cynllun, gyda Phlaid Cymru yn chwyrn yn ei erbyn.
'Un bleidlais'
Fe bwysleisiodd Ms Wood "nad diwrnod am glymbleidio oedd heddiw".
"Diwrnod ar gyfer un bleidlais yn unig i alluogi enwebiad Llafur i gael ei gymeradwyo ydi heddiw," meddai.
"Ac os yw'r blaid honno'n credu fod eu bwlian yr wythnos diwethaf yn mynd i atal Plaid Cymru rhag pleidleisio yn yr un ffordd eto i'ch dwyn i gyfrif yna meddyliwch eto.
"Dydw i ddim am ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd wythnos diwethaf ac fe fyddwn yn gwneud hynny eto os oes rhaid er mwyn i Lafur sylweddoli eu bod yn gyfrifol am lywodraeth leiafrifol."
Dywedodd Simon Thomas AC Plaid Cymru wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore dydd Mercher fod y cytundeb wedi bod yn llwyddiant i Blaid Cymru gan sicrhau nifer o'u haddewidion oedd yn eu maniffesto etholiadol.
Ar ben hynny, meddai, nid oedd ei blaid wedi addo eu cefnogaeth i Lafur ar gyfer pleidleisiau yn y dyfodol pe bai anghytuno rhwng y pleidiau.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt nad oedd Llafur wedi gorfod ildio unrhyw un o'u haddewidion etholiadol er mwyn sicrhau'r cytundeb.
"Rwy'n rhagweld y byddwn yn cyflawni'r addewidion oedd yn ein maniffesto yn ystod y Cynulliad hwn," meddai.
Araith gyntaf
Yn y cyfamser mae araith gyntaf arweinydd UKIP yn y Senedd, Neil Hamilton, wedi codi gwrychyn nifer o aelodau'r Cynulliad.
Fe ddisgrifiodd Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Ms Wood fel "gordderchwragedd gwleidyddol" - political concubines yn Saesneg - yn "hareem" Carwyn Jones.
Roedd Ms Williams a Ms Wood wedi cefnogi ymgais Carwyn Jones i gael ei ail-benodi fel prif weinidog, ond dywedodd Ms Williams bod Mr Hamilton wedi defnyddio iaith rywiaethol "gwbl amlwg".
Yn dilyn sylwadau Mr Hamilton, dywedodd Elin Jones, Llywydd y Cynulliad mewn datganiad ddydd Mercher:
"...Rhaid i aelodau gael cyfle llawn i egluro eu hunain yn gadarn a chael eu clywed.
"Ond mae'n rhaid iddyn nhw wneud hyn mewn ffordd sydd yn dangos parch at eraill. Mae ein trafodaethau ar eu gorau pan mae Aelodau'n taro'r cydbwysedd yma.
"Dyma fydd fy nisgwyliadau o bob Aelod yn ystod y Pumed Cynulliad. Byddaf yn adolygu cofnod o'r drafodaeth heddiw ac fe fyddaf yn gwneud dyfarniad os ydwyf yn credu ei fod yn briodol i wneud hynny."