'Angen denu mwy o deuluoedd i'r Ardd Fotaneg'

  • Cyhoeddwyd
Gardd Fotaneg

Mae angen denu mwy o ymwelwyr i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne, a rhoi mwy o bwyslais ar weithgareddau masnachol, medd cyfarwyddwr dros dro'r ganolfan.

Mewn cyfweliad arbennig a rhaglen BBC Cymru y Post Cyntaf, dywedodd Gary Davies fod angen denu mwy o deuluoedd.

Bydd Mr Davies yn rhoi'r gorau i'w swydd fis nesaf, wrth i'r cyfarwyddwr newydd, Huw Francis, ddechrau ar ei waith.

Mae cyfrifon sydd wedi eu gweld gan raglen BBC Cymru y Post Cyntaf yn dangos fod Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi gwario £300,000 yn fwy na'i incwm y llynedd.

Mae Gary Davies hefyd wedi amddiffyn agwedd yr Ardd Fotaneg tuag at y Gymraeg ar ôl beirniadaeth gan ymgyrchwyr iaith.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gary Davies yn rhoi'r gorau i'w waith yn gyfarwyddwr dros dro'r Ardd Fotaneg Genedlaethol ym mis Mehefin.

Mae'r Ardd Fotaneg yn denu tua 120,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, ond mae ei grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru wedi ei gwtogi o bron 11%.

Bydd Llywodraeth Cymru'n darparu £581,000 o nawdd uniongyrchol i'r ardd eleni.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn torri ei nawdd o £50,000 i £30,000 y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Mr Davies fod "yn rhaid i'r ardd dyfu'n fasnachol", sy'n groes i farn ei ragflaenydd, Dr Rosie Plummer, a rybuddiodd, wrth iddi hi adael ei swydd, rhag peryglon masnacheiddio'r ganolfan.

Fel rhan o ymdrechion i ddenu rhagor o ymwelwyr i'r ardd, bydd parc chwarae i blant a thŷ pili pala yn agor ar y safle.

Ffynhonnell y llun, PA

Amddiffynnodd Mr Davies agwedd yr Ardd Fotaneg at yr iaith Gymraeg hefyd, yn sgil beirniadaeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf: "Galla i ddweud yn berffaith wir, mae polisi iaith yr Ardd Fotaneg llawn cystal ag unrhyw atyniadau rwy'n gyfarwydd â nhw yn y de orllewin.

"Mae'r polisi iaith yn dda iawn. So hwnna'n dweud na fydd e'n well yn symud ymlaen - bendant - ond mae e'n dda iawn, ond ddaw e'n well eto.

"Ges i ambell i berson o Gymdeithas yr Iaith i ddod ma's ma i weld beth o'n i'n neud, i esbonio beth o'n ni'n neud.

"Sai'n credu bod 'na wedi cael ei esbonio'n ddigon da y llynedd, a gallen i feddwl eu bod nhw'n ddigon hapus."