Baner las yn chwifio ar fwy o draethau Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd wedi bod yn nifer y traethau yng Nghymru i gael eu gwobrwyo a'r faner las am ansawdd eu dŵr a'u diogelwch.
Mae traethau Tywyn yng Ngwynedd, Poppit yn Sir Benfro, Marina Porthcawl yn Sir Pen-y-bont, Bae Whitmore y Barri a Marina Penarth ym Mro Morgannwg wedi derbyn yr anrhydedd ddydd Iau, sy'n mynd a'r cyfanswm drwy'r wlad o 41 y llynedd i 47 eleni.
Mae gwobrau'r faner las yn cael eu cynnal mewn 49 o wledydd ac yn cael eu rheoli yng Nghymru gan Cadwch Cymru'n Daclus.
Dywedodd Lesley Jones o'r mudiad eu bod "wrth eu bodd" a'r cynnydd: "Mae'r arfordir yn bwysig iawn i Gymru am ei fod yn rhoi hwb i economïau lleol a'r diwydiant ymwelwyr, ac mae'n caniatáu i ni hyrwyddo'n gwlad brydferth."