Pantycelyn: Galw am ymrwymiad i agor erbyn 2019

  • Cyhoeddwyd
pantycelyn

Mae bwrdd sy'n edrych ar ddyfodol neuadd Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi galw ar y brifysgol i ymrwymo i ail-agor Pantycelyn erbyn 2019.

Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener, mae Bwrdd Prosiect Pantycelyn yn cefnogi cynllun fyddai'n creu 200 o 'stafelloedd en suite yn y neuadd, ac mae'n galw ar y brifysgol i gefnogi'r cynllun hefyd.

Cafodd dau opsiwn eu cyflwyno yn yr adroddiad, ac roedd y ddau yn cynnwys ardaloedd cyffredin fyddai'n agored i holl breswylwyr y neuadd.

Bydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth yn trafod y cynnwys ar 29 Mehefin.

Dau opsiwn

Roedd Prifysgol Aberystwyth wedi ystyried cau Neuadd Pantycelyn, gyda'r bwriad o gynnig fflatiau mwy modern i fyfyrwyr Cymraeg yn y dyfodol.

Roedd y brifysgol yn dweud bod "angen am fuddsoddiad hirdymor sylweddol a gwariant ychwanegol" i sicrhau'r safle ar gyfer yr hir dymor, a'r bwriad oedd creu neuadd Gymraeg newydd ar safle Penglais.

Ond yn dilyn gwrthwynebiad chwyrn gan fyfyrwyr, fe wnaeth y brifysgol gytuno i adnewyddu'r neuadd a'i chadw'n neuadd i fyfyrwyr Cymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth myfyrwyr brotestio a meddiannu Neuadd Pantycelyn yn eu hymgyrch i newid penderfyniad y brifysgol

Yn adroddiad Bwrdd Prosiect Pantycelyn, opsiwn A yw:

  • 199 o 'stafelloedd, gyda 114 o'r rhain yn rai en suite

Mae'r adroddiad yn awgrymu y byddai cost y cynllun yma yn £8.36m + Treth ar Werth.

Opsiwn B yw:

  • Pob un o'r 200 o 'stafelloedd yn rhai en suite

Amcangyfrif y gost yw £8.7m + Treth ar Werth.

Mae Bwrdd Prosiect Pantycelyn wedi cefnogi opsiwn B ac mae'r adroddiad yn galw ar y brifysgol i gefnogi eu dewis hefyd.

Yn ogystal, mae'r bwrdd yn galw ar y brifysgol i ymrwymo i gwblhau'r gwaith adnewyddu ac agor Pantycelyn eto erbyn Medi 2019.

Mae disgwyl i gyngor y brifysgol drafod yr adroddiad mewn cyfarfod ar 29 Mehefin.