Cymro ar fwrdd awyren EgyptAir aeth ar goll ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd
Richard OsmanFfynhonnell y llun, Dimitris Legakis
Disgrifiad o’r llun,

Richard Osman

Mae na bryder fod Cymro o Sir Gaerfryddin ar fwrdd awyren EgyptAir aeth ar goll rhwng Paris a Cairo ddydd Iau.

Y gred yw bod Richard Osman, 40 oed, yn teithio i'r Aifft lle'r oedd yn gweithio gyda chwmni mwyngloddio aur.

Fe gafodd Mr Osman ei fagu yng Nghaerfyrddin ac mae'n gyn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Y Frenhines Elisabeth.

Mr Osman yw'r hynaf o bedwar o blant y diweddar feddyg Dr Mohamed Fekry Ali Osman a'i wraig Anne.

Mae gan Richard Osman 16 mlynedd o brofiad yn y maes mwyngloddio, ac yn yr Aifft mae'n rheolwr ar safle mwyngloddio Sukari.

Yn gynharach fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones rannu neges ar wefan Twitter oedd yn dweud: "Trist iawn clywed ei bod yn bosib bod Cymro ymhlith dioddefwyr trychineb EgyptAir. Mae fy swyddogion yn cydgysylltu â'r Swyddfa Dramor."

Mae gweddillion yr awyren wedi eu gweld yn y môr i'r de o ynys Karpathos ac mae llongau milwrol o'r Aifft a Ffrainc yn archwilio'r ardal.

MS804

Roedd 66 o bobl ar fwrdd yr awyren ar hediad MS804, y rhan fwyaf ohonynt o'r Aifft a Ffrainc.

Fe wnaeth yr awyren ddisgyn mwy na 25,000 troedfedd cyn diflannu oddi ar y sgrin radar.

Roedd yr awyren yn teithio rhwng maes awyr Charles de Gaulle ym Mharis a Cairo.

Gadawodd Paris am 21:09 nos Fercher ac roedd fod i gyrraedd Cairo am 03:15 amser lleol.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Teuluoedd y rhai oedd ar yr awyren yn ymgynnull yn Cairo

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n debyg mai awyren Airbus 320 yw'r un sydd ar goll.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Teuluoedd yn aros am newyddion ym maes awyr Paris Charles De Gaulle