Teyrnged i Elvis ar ei ffordd o Gymru i Graceland
- Cyhoeddwyd
Mae darlun o graig adnabyddus ar fynydd-dir canolbarth Cymru, sy'n cael ei ystyried yn deyrnged genedlaethol i Elvis Presley, i gael lle o anrhydedd yn Graceland, ym Memphis Tennessee.
Mae'r darlun o waith Wynne Melville Jones, Eisteddfa Gurig- Craig Elvis, yn cynnwys graffiti adnabyddus Elvis a baentiwyd ar graig wrth ochr y ffordd fawr, ac mae'r fangre bellach wedi ei henwi'n lleol yn Craig Elvis.
Cafodd nifer cyfyngedig o brintiadau o'r darlun gwreiddiol eu cynhyrchu, ac nawr mae copi ohono wedi ei gyflwyno i'r casgliad o femorobilia yn Graceland, y plasty a fu'n gartref i Elvis. Bellach mae'n amgueddfa ac archifdy sy'n denu 700,000 o ymwelwyr yn flynyddol.
Mae Craig Elvis yn gyfarwydd i deithwyr ar ffordd yr A44, rhyw 10 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth ger Eisteddfa Gurig, wrth droed Pumlumon Fawr, ac mae'n nodwedd amlwg ar y daith o Langurig i Aberystwyth.
Yr hanes
Fin nos yn y flwyddyn 1962, mentrodd dau lanc ifanc o Aberystwyth i'r gwyll tua'r mynydd gyda brwsh paent i baentio 'Elis' ar graig, er mwyn cefnogi Islwyn Ffowc Elis, ymgeisydd Plaid Cymru mewn isetholiad yn Sir Drefaldwyn yn dilyn marwolaeth yr Aelod Seneddol lleol, Clement Davies.
Yn fuan wedi'r etholiad, fe newidwyd yr enw i 'Elvis' gan un a dybir oedd yn ffan o'r canwr byd enwog. Yn ôl y sôn, roedd y llenor a'r gwleidydd Islwyn Ffowc yn ddigon bodlon i gael ei enw ar yr un llwyfan ag Elvis, Brenin y Canu Roc.
Cwblhawyd y darlun o Eisteddfa Gurig gan Wynne Melville Jones yn ystod y gwanwyn eleni er mwyn ei gynnwys mewn arddangosfa o'i waith yn Oriel Rhiannon Tregaron sy'n dathlu pum mlynedd o gynhyrchu celf.
Wedi ymddeol yn 2011, mae Wynne wedi llwyr ymgolli yn ei ddiddordeb pennaf - celfyddyd gain, ac mae'n gweithio o stiwdio yn ei gartref yn Llanfihangel Genau'r Glyn yng Ngheredigion.
Mae un o'i luniau o gapel diarffordd Soar-y-Mynydd yn eiddo i Jimmy Carter, cyn-arlywydd UDA: "Fel teithiwr cyson ar yr A44, rwy'n hen gyfarwydd â Chraig Elvis, ac i mi ar daith adre, mae fel carreg filltir ar ochr y ffordd fawr, yn fy atgoffa fy mod ar fin dychwelyd i fy sir enedigol am fod y ffin i Geredigion rownd y tro nesaf.
Mae'r darlun gwreiddiol Eisteddfa Gurig - Craig Elvis wedi ei gynnwys mewn arddangosfa o waith Wynne yn Oriel Rhiannon yn Nhregaron.
Mae'r llun erbyn hyn wedi ei werthu ond bydd yn aros yno tra peri'r arddangosfa hyd 2 Gorffennaf 2016 cyn cael ei symud i'w gartref newydd.