Pêl-droed a hunluniau
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n wyneb a llais cyfarwydd ar wasanaethau teledu a radio BBC Cymru ac mae hi wedi creu ychydig o gynnwrf hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gwleidyddion, sêr chwaraeon a hyd yn oed y teulu brenhinol - does neb yn ddiogel pan mae Catrin Heledd a'i bys ar fotwm camera ei ffôn symudol!
Yn ystod y mis nesa' (gan obeithio y bydd Cymru yn rownd derfynol Euro 2016 ym Mharis!) bydd hi'n ceisio ychwanegu mwy o hunluniau, neu selfies, i'w chasgliad.
Mae Cymru Fyw yn eich gwahodd chi hefyd i anfon hunluniau o'ch hunain gydag enwogion yn ystod y bencampwriaeth. Gall hynny fod allan yn Ffrainc, neu'n agosach at adref.
Ond yn y cyfamser, gofynnodd Cymru Fyw yn garedig i Catrin roi ei ffôn o'r neilltu am 'chydig funudau i sôn mwy am ei hobsesiwn efo'r selffi:
'O bydded i'r hunlun barhau!'
Fy enw i yw Catrin ac ma' gen i broblem. Dwi'n hunluniwr. Dyna 'ny, 'dwi 'di cyfadde', 'dwi'n hoff o hunlun neu ddau. Ie sucker wyf am selffi...
'Dwi wastad 'di bod yn un am lun gyda'r enwogion - pan yn fyfyriwr yn Aberystwyth roedd gen i "enwog-wal" neu wall of stalk a oedd yn destun dirmyg gan gyfoedion.
Roedd safon y selebs yn amrywio cofiwch. O rai o fawrion y genedl o Gwmderi i rai o wehilion 'Big Brother' a 'Fame Academy'. Ond rhoi fy ffydd a fy nghamera i ffrind fyddwn i bryd hynny... Erbyn hyn does dim rhaid.
Gyda chlic bach o'r ffôn, mae modd sicrhau llun cam, di-ffocws, di-drefn 'da sawl gên... ond dio'm ots am hynny... ma'r eiliad gyda'r enwog-un ar gof a chadw a fi yn unig sy' ar fai am fethiant neu lwyddiant yr hen lun.
Tra ar grwydr 'da amryw gampau i adran Chwaraeon BBC Cymru 'dwi wedi cofleidio'r arfer a thra byddai yn Ffrainc i ddilyn hynt a helynt pêl-droedwyr Cymru mi fydda'i yn gobeithio ychwanegu at y casgliad!
Rwy' hefyd yn awyddus i weld eich ymdrechion chi - y cefnogwyr sydd yn ddigon ffodus i fod dros y Sianel a'r rhai ohonoch chi fydd yn dilyn bechgyn Chris Coleman chydig yn nes at adre'.
Gallwch anfon eich lluniau at Cymru Fyw trwy eu hanfon i'n tudalen Facebook, dolen allanol neu ar ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw gan ddefnyddio #CymruFyw. Croeso i chi eu hanfon hefyd ar e-bost at cymrufyw@bbc.co.uk
O bydded i'r hunlun barhau! Dyma i chi rai o'r wynebau cyfarwydd rwy' wedi eu perswadio i dynnu llun 'da fi dros y blynddoedd diwetha':
Tim Henman
Dwi'n meddwl i fi 'neud rhyw esgus bod y cynhyrchydd yn mynnu bo fi'n cael llun gydag e... celwydd noeth! Fi o'dd yn awyddus i gael llun a dyna 'ny!
John Lloyd
Wel am ddyn hoffus - wastad yn hael iawn ei gyfweliad ac yn amlwg yn un am hunlun.
Christian Malcom
Roedd y gwibiwr yn rhan o dîm sylwebu BBC Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014. Er fy mod i awr a hanner yn hwyr yn ei gyrraedd oherwydd campau'r merched gymnasteg rhythmig, roedd e'n hapus i gael llun!
Jamie Donaldson
Ges i'r llun 'ma rhyw ddeuddydd cyn i'r Cymro gael y pwynt hollbwysig fyddai'n sicrhau bod Cwpan Ryder unwaith eto yn nwylo Ewrop.
Roedd mynd yn agos ato wedi hynny yn her am fod pawb yn awyddus i gael gair ag e - ond ges i gwtch bach ganddo ar ddiwedd y gystadleuaeth.
Sam Warburton
Er i'r Gleision golli eu gêm yn nigwyddiad Dydd y Farn yn Stadiwm y Mileniwm y flwyddyn honno - fe dreuliodd gapten Cymru rhyw hanner awr yn cael hunluniau gyda'r dorf.
Roedd ganddo ddigon o amser, chwarae teg, i ohebydd di-nod fel fi hefyd!
Pwy yw hwn te?
Fel y gwelwch chi isod mae'r achlysuron chwaraeon mawr yn denu unigolion tu hwnt i fyd y campau. Fe lwyddes i berswadio Stephen Fry i dynnu ei lun gyda mi pan nes i daro mewn iddo fe yn Wimbledon. Pa sêr ddewch chi ar eu traws tra'n dilyn Cymru yr ha' 'ma 'sgwn i?
Y Tywysog William a Kate
Dyma Bethan Clement, fy nghydweithwraig, yn ymuno yn yr hwyl!
Os edrychwch chi'n graff iawn rhwng y ddwy ohonom ni, fe allwch weld William a Kate. Yn rhyfedd iawn - doedd y swyddogion diogelwch ddim yn awyddus ein bod ni'n mynd yn nes atyn nhw!
Y Tywysog Hal
A dyma chi un efo gŵr fydd yn allweddol i ymdrechion Cymru yn Ffrainc. Ie... Hal! Robson! Hal Robson-Kanu!