Wali yn arwyddo i Cymru Fyw
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy Euro 2016 mae BBC Cymru Fyw wedi cyhoeddi fod aelod arbennig yn ymuno â'r tîm - Wali Tomos.
Roedd Wali yn un o'r cymeriadau anfarwol tu ôl i dîm Bryncoch yng nghyfres gomedi lwyddiannus S4C, 'C'mon Midffîld', yn yr 80au a'r 90au - cyfres a ddechreuodd ar BBC Radio Cymru.
Bydd Wali, gyda chymorth yr actor a'r awdur Mei Jones, yn cyhoeddi darn blog ddydd Llun, 6 Mehefin, cyn paratoi cyfres o fideos 'Tic-tacs Wali Tomos' cyn gemau grŵp Cymru.
Yn ogystal ag ambell i gymeriad arbennig arall, bydd Wali hefyd yn cyfrannu sylwadau ar lif byw BBC Cymru Fyw yn ystod tair gêm grŵp Cymru.
Dilyn Cymru'n fyw
Wrth arwyddo ar gyfer Cymru Fyw dywedodd Mei Jones: "Mae gwylio Cymru'n fyw mewn unrhyw gamp yn artaith pur i mi, gan eu bod yn dueddol o golli bob tro rydw i'n dyst i'r achlysur! Felly dyna pam mai Wali Tomos fydd yn gwylio gemau Cymru ar gyfer Cymru Fyw."
Yn ogystal â'i yrfa gyda thîm Bryncoch a C'mon Midffîld, mae gan Mei gefndir fel pêl-droediwr rhyngwladol ei hun. Tra'n ddisgybl ysgol cafodd ei ddewis i chwarae i garfan dan-18 Cymru.
"Y gêm bwysicaf a chwaraeais i erioed oedd yn erbyn y Saeson ar hen gae Hull City," meddai Mei. "Colli o ddwy i un fu'r hanes, er mai un yr un oedd y sgôr pan o'n i ar y cae!"
Bydd Cymru Fyw yn cynnig llif byw o holl gemau Cymru yn y bencampwriaeth, yn ogystal â chynnig amryw o eitemau ar wefan arbennig Euro 2016.
Bydd holl gemau Cymru i'w gweld yn fyw ar S4C HD a bydd sylwebaeth lawn ar BBC Radio Cymru.
Yn ogystal â hyn, mae Cymru Fyw yn gwahodd cefnogwyr i anfon hunluniau, neu selfies, o'u hunain gydag enwogion yn ystod y bencampwriaeth. Gall hynny fod allan yn Ffrainc, neu'n agosach at adref. Gellir gwneud hynny drwy Twitter gan ddefnyddio #CymruFyw neu @BBCCymruFyw, neu ebostio cymrufyw@bbc.co.uk (gan ofalu ei bod yn ddiogel a chyfreithlon i wneud hynny).