Euro 2016: Ardal gefnogwyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
bute

Fe fydd ardal gefnogwyr yn cael ei sefydlu yng Nghaerdydd, gyda sgrîn fawr i alluogi cefnogwyr i wylio Cymru yn cystadlu yn rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc.

Mae'r lleoliad dan sylw ym ym Mharc Biwt yn y ddinas.

Dywedodd Cyngor Caerdydd y byddai'r ardal yng Nghae Cooper yn dal 6,000 o gefnogwyr, ac fe fydd mynediad yn rhad ac am ddim, ac yn addas i deuluoedd.

Bydd bandiau lleol yn darparu adloniant, a bydd bwyd a diod hefyd ar gael ar y safle.

Fe fydd yr ardal yn cael ei redeg gan bartneriaeth sy'n cynnwys y cyngor, Sayer Amusements, BBC Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chwaraeon Caerdydd.

Bydd Cymru yn wynebu Slofacia ddydd Sadwrn Mehefin 11, Lloegr ar ddydd Iau 16 Mehefin, a Rwsia ar ddydd Llun, 20 Mehefin.

Gwrthod ardal gefnogwyr

Yn y cyfamser mae Heddlu Gwent wedi gwrthod cefnogi cynllun i sefydlu ardal cefnogwyr ar gyfer Euro 2016 yng Nghasnewydd, gan ddweud y byddai'r syniad yn cynnig gormod o risg.

Y bwriad oedd gosod sgrîn fawr yn Sgwâr John Frost yn y ddinas, ond dywedodd yr heddlu y byddai'r cynllun wedi cynyddu'r risg o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac fe fyddai wedi bod yn ormod o bwysau ar yr heddlu lleol.

Dywedodd yr Arolygydd Kevin Warren: "Doedd trefnwyr y digwyddiad methu cynnig sicrwydd digonnol ar gyfer ardaloedd o'r ddinas fyddai wedi gallu wynebu risg diogelwch i'r cyhoedd a risg i enw da'r llu.

"Rwy'n credu mai dyma'r penderfyniad cywir i'r ardal ac fe fydd yn helpu i gadw Casnewydd yn lle mwy diogel."

Mae Cyngor Wrecsam hefyd wedi cadarnhau ddydd Mawrth nad oes cynlluniau i drefnu ardal gefnogwyr yn y dref.