Adolygiad prifysgol yn ymwneud â chydraddoldeb hiliol
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod nhw'n cynnal adolygiad annibynnol er mwyn ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb hiliol.
Daw'r adolygiad wrth i ymchwiliad arall fynd rhagddo yn dilyn cwynion am gynnwys perfformiad gan fyfyrwyr meddygol ym mis Chwefror ar gampws y brifysgol.
Mae BBC Cymru yn deall bod y cwynion yn ymwneud gyda'r ffaith fod paent neu golur wedi ei rhoi ar wyneb myfyriwr fel bod y wyneb yn ddu a bod y sioe wedi dynwared aelod o staff.
Mae Is-ganghellor y brifysgol, yr Athro Colin Riordan wedi dweud ei fod yn awyddus i'r sefydliad cyfan ddysgu gwersi o'r adolygiad.
'Polisïau clir'
Dinesh Bhugra o Brifysgol King's College yn Llundain sy'n cynnal yr adolygiad annibynnol, gan ganolbwyntio ar yr ysgol feddygaeth yn y brifysgol.
Pan gafwyd cwynion yn dilyn y perfformiad fe ddywedodd y brifysgol y byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal ac fe ysgrifennodd y Deon Meddygaeth, yr Athro John Bligh, e-bost at staff a myfyrwyr yn eu hatgoffa o "bolisïau clir y Brifysgol ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth".
Deallir mai tua 30 o fyfyrwyr oedd yn rhan o'r ymchwiliad ar y dechrau ond mae'r niferoedd hynny wedi lleihau wrth i'r ymchwiliad fynd ymlaen.
Ymhlith y materion y bydd yr Athro Bhugra a'r panel yn edrych arnynt fydd y broses o dderbyn myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig a'u profiad yn y brifysgol. Byddant yn edrych yn benodol ar y pryderon am gynnwys y perfformiad ym mis Chwefror.
Bydd y panel hefyd yn clywed profiadau myfyrwyr a staff ac yn amlygu unrhyw anghydraddoldebau hiliol, yn edrych ar y data ar gyfer recriwtio myfyrwyr a staff ac yn ystyried beth yw'r targedau sydd yn bodoli o fewn yr Ysgol Feddygaeth o safbwynt cydraddoldeb hiliol.
'Cefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb'
Dywedodd yr Athro Colin Riordan: "Rwyf yn falch bod yr Athro Bhugra wedi cytuno i gadeirio'r adolygiad hwn.
"Mae'n hanfodol cael cadeirydd uchel ei barch ac sydd â'r arbenigedd priodol, ac mae'r Athro Bhugra yn ddewis addas heb os nac oni bai.
"Rhaid i'n myfyrwyr a'n staff allu ffynnu ym Mhrifysgol Caerdydd beth bynnag fo'u cefndir, ac mae'r adolygiad yn rhan o'n hymagwedd rhagweithiol i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd.
"Mae Prifysgol Caerdydd yn ystyried materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth o ddifrif, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl weithgarwch."
Bydd yr adolygiad yn digwydd yn ystod yr haf ac mae disgwyl i'r adroddiad gael ei gwblhau erbyn yr hydref.
Mae disgwyl i'r ymchwiliad arall ddod i ben cyn diwedd yr haf.