Lluniau: Bon Voyage!
- Cyhoeddwyd

Cymry yn uno ar gyfer y daith

Un o gefnogwyr ieuenga' Cymru? Osian ar ei ffordd i Ffrainc hefo mam a dad, Anwen a Rhodri

"Gobeithio bydd y môr na'n dawel!"

Gyda'n Gilydd. Bois Casnewydd yn arddel boi o Gaerdydd!

Cofiwch y gallwch chi ddilyn hogia Coleman ar Radio Cymru... a Cymru Fyw wrth gwrs!

Mae'r criw yma'n teithio o GB, gwlad Gareth Bale!

Popeth yn barod? Ble mae'r brws dannedd?

Hogiau Ynys Môn wedi dechrau'r siwrne mewn hwyliau da. Gobeithio na fydd na giwiau ar Bont Britannia!

Criw mawr o glwb Llanberis. Ydyn nhw'n mynd i Ffrainc ar y trên?

Rhoi Amlwch ar y map! Cadwch olwg am y faner nos Sadwrn.

Mae'r cefnogwr yma'n hyderus y bydd 'na fwy na thair gêm i'w gweld!