100 mlynedd ers i garcharorion gyrraedd Frongoch

  • Cyhoeddwyd
frongoch

Y newyddiadurwraig Bethan Kilfoil sy'n edrych ar safbwynt Iwerddon ar yr hyn ddigwyddodd yn y carchar ym mherfeddion Meirionydd 100 mlynedd yn ôl.

Mae'r enw Frongoch (neu VRON-gok fel mae'r Gwyddelod yn ei ddweud - ac mae sawl un wedi "cywiro" fy ynganiad i o'r lle!) yn go adnabyddus yn Iwerddon, er nad oes gan y rhan fwyaf o bobl ddim clem ynglŷn â'r lleoliad.

Mae'n wir fod 'na nifer cynyddol o bobl sy'n ymddiddori yn hanes Gwrthryfel 1916, a hefyd disgynyddion rhai o'r gwrthryfelwyr a garcharwyd yno, sydd wedi bod ar bererindod i Frongoch - a'r gobaith yw y bydd llawer mwy yn ymweld a'r lle yn sgil y canmlwyddiant. Ond i'r mwyafrif, enw ydi Frongoch, sy'n rhan o hanes - ac i raddau mytholeg - 1916.

Mae eleni wedi bod yn frith o seremonïau yn Iwerddon i gofnodi canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg 1916 - y digwyddiad mwyaf symbolaidd yn hanes annibyniaeth Iwerddon.

Methiant oedd y Gwrthryfel ei hun - gorchfygwyd y gweriniaethwyr o fewn wythnos gan luoedd pwerus Prydain - ond dyma oedd man cychwyn y frwydr dros annibyniaeth, a hynny i raddau helaeth o ganlyniad i gamgymeriadau gan y Prydeinwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Kilfoil yn newyddiadurwraig gyda gwasanaeth RTE yn Iwerddon

Y camgymeriad cyntaf y gwnaethant oedd dienyddio arweinwyr y Gwrthryfel a'u gwneud yn ferthyron. A'r ail gamgymeriad oedd anfon 2,000 o'r gwrthryfelwyr i garchar Frongoch.

Oherwydd yn Frongoch y daeth nifer fawr o'r gwrthryfelwyr yma at ei gilydd am y tro cyntaf.

Roedden nhw'n dod o bob cwr o Iwerddon, ac yn Frongoch daethon nhw i adnabod ei gilydd, dysgu oddi wrth ei gilydd, cynllunio ar gyfer y dyfodol, llunio syniadau a strategaethau milwrol: yn y bôn, ffurfio cnewyllyn ar gyfer byddin.

Erbyn i'r dynion yma fynd nôl i Iwerddon chwe mis yn ddiweddarach, roedden nhw'n llawer parotach ar gyfer y Rhyfel Annibyniaeth oedd i ddod.

Yn Frongoch y daeth Michael Collins i'r brig. Erbyn heddiw (a diolch i'r actor Liam Neeson yn ffilm Neil Jordan) Michael Collins ydi arwr mawr y Rhyfel Annibyniaeth. Ond doedd o ddim yn un o arweinwyr 1916.

Roedd yn gapten yn ystod y Gwrthryfel ac yn aide-de-camp i Joseph Punkett, un o'r arweinwyr, ond chwaraeodd o mo rhan blaenllaw yn y cynlluniau.

"The Big Fellow"

Yn Frongoch, fodd bynnag, fe ddatblygodd yn arweinydd. Yno, rhoddwyd y llysenw "The Big Fellow" arno, nid yn unig oherwydd ei faint corfforol, ond am ei fod yn mynnu cymryd yr awenau.

Mae'n eironig - a chwithig braidd - mai drwy fod yn gartref i garchar ar gyfer Gwyddelod y gwnaeth Frongoch, a Chymru, gyfraniad tuag at ryddid Iwerddon. Ond beth bynnag am yr eironi, fe chwaraeodd Frongoch ran allweddol yn y broses annibyniaeth - fel "prifysgol" i'r gweriniaethwyr, ac fel llwyfan i Michael Collins.

Ac mae'n gyfraniad sy'n llawn haeddu cael ei gofnodi a'i gynnwys yn y fflyd o seremonïau i gofio 1916 eleni.

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer y canmlwyddiant ddydd Sadwrn yn ardal Frongoch a Phenllyn.