Anlwc cefnogwyr o Flaenau Ffestiniog ar y ffordd i Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
campyr

Mae criw o gefnogwyr pêl droed sydd ar y ffordd i Ffrainc i wylio Cymru wedi mynd i drafferthion ar ôl i'w cerbyd fynd yn sownd o dan bont ar y cyfandir.

Roedd Michael Pugh a'i ffrindiau yn teithio o Flaenau Ffestiniog yn y gogledd i Bordeaux yn Ffrainc i weld Cymru yn chwarae yn eu gêm gyntaf yn rowndiau terfynol Euro 2016.

Roedd yr ymladdwr tân 25 oed yn gyrru drwy ddinas Rouen am tua 10:30 pan fachodd to'r fan mewn pont isel oedd yn croesi'r ffordd.

Roedd Mr Pugh, ynghyd â'i dad a chriw o ffrindiau wedi llogi'r fan yn arbennig ar gyfer y daith.

Dywedodd Mr Pugh eu bod yn dilyn y peiriant sat nav i gyrraedd y gwersyll am y noson.

"Roedda ni'n mynd yn iawn, ond allan o nunlle mi ddaeth 'na glec fawr.

"'Mi oedd to'r campyr wedi bachu yn y bont oedd yn mynd dros y ffordd, 'doedd 'na ddim arwyddion o gwbl i'n rhybuddio fod y to yn isel."

Eglurodd Mr Pugh wrth Cymru Fyw fod y cwmni llogi wedi cymryd y campyr yn ôl, er mwyn ei yrru i'r Eidal i gael ei adnewyddu, ac oherwydd prysurdeb y gystadleuaeth bêl-droed, nid oedd modd llogi un arall.

Mae gan Mr Pugh a'i ffrindiau docynnau i ddilyn Cymru i'r ffeinal. "Rwan sganddon ni nunlla i aros na ffordd i deithio, 'da ni am barhau a'r daith i Bordeaux, ond wedi hynny, 'dwi ddim yn gwybod be' wnawn ni." meddai.

"Fe fydd yn rhaid i ni ystyried dod adref yn gynt na'r disgwyl." ychwanegodd Mr Pugh.