Lynette White: Cyn blismyn yn colli achos

  • Cyhoeddwyd
Lynette White
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Lynette White yn 1988

Mae 15 cyn swyddog gyda Heddlu'r De wedi colli eu hachos sifil yn erbyn y llu.

Roedden nhw'n ceisio iawndal gan Heddlu'r De.

Fe ddaeth achos llys yn eu herbyn i ben yn sydyn 2011.

Roedd yr erlyniad ar y pryd yn honni llygredd yn ymwneud ag achos llofruddiaeth Lynette White yn 1988.

Y 15 ddaeth a'r achos sifil yn erbyn Heddlu De Cymru oedd Graham Moucher, Richard Keith Powell, Peter Edward Greenwood, Rachel Edith O'Brien, Wayne Stephen Pugh, Paul Jennings, Paul Arthur Stephen, John Stuart Seaford, Michael Raymond Daniels, John Bryan Gillard, Thomas Page, Stephen Hicks, John Howard Murray, Adrian Morgan ac Erica Coliandris.

Methu profi honiad

Dywedodd y barnwr fod y cyn swyddogion yn honni fod Heddlu'r De wedi gweithredu y tu hwnt i'w grymoedd yn fwriadol neu'n fyrbwyll.

Roedden nhw hefyd yn honni fod gan y llu "feddylfryd o euogrwydd" am y cyn swyddogion, a'u bod wedi cynnal yr ymchwiliad mewn modd "hollol anghymesur, er gwaethaf gwendidau'r dystiolaeth oedd ar gael."

Ond dywedodd y barnwr fod y cyn swyddogion wedi methu â phrofi eu honiadau.

Dywedodd Mr Ustus Wyn Williams nad oedd dim un o swyddogion Heddlu De Cymru wedi mynd y tu hwnt i'w pwerau yn ystod yr ymchwiliad.

Yn ogystal, dywedodd, "ac yn bwysig iawn", doedd 'na'r un swyddog wedi camymddwyn yn ystod yr ymchwiliad.

Mae cyfreithwyr ar ran saith o'r cyn blismyn yn dweud eu bod nawr yn ysyried y posiblrwydd o apelio.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De bod angen amser arnyn nhw i ystyried dyfarniad yr Uchel Lys ac y byddan nhw'n cyhoeddi datganiad yn ddiweddarach.

Achos 2011

Yn y cyfamser, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod ymchwiliad yn parhau i'r amgylchiadau pan ddaeth achos llys 2011 i ben.

"Mae dros 25 mlynedd ers i dri dyn gael eu carcharu ar gam am lofruddiaeth Lynette White.

"Mae cwestiynau'n parhau pam na chafodd unrhyw un ei ddal yn gyfrifol am yr anghyfiawnder hwn.

"Dyna pam, yn Chwefror 2015, y cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref ymchwiliad i amgylchiadau achos 2011 a pham iddo fethu.

"Mae ymchwiliad Richard Horwell QC yn mynd rhagddo. Fe fydd yn adrodd ei ganfyddiadau ar ôl i'r achos sifil yn erbyn Heddlu'r De ddod i ben.

"Fe fydd hyn yn caniatáu iddo archwilio unrhyw dystiolaeth o'r achos sifil a allai fod yn berthnasol i'w ymchwiliad."