Dim claddu ceblau ar draws Môn, medd y Grid Cenedlaethol

  • Cyhoeddwyd
peilonFfynhonnell y llun, PA

Mae'r Grid Cenedlaethol wedi cyhoeddi rhagor o fanylion ynglŷn â'u cynlluniau i gario trydan o Wylfa Newydd i Is-Orsaf Pentir ger Bangor.

Ni fydd peilonau yn cael eu codi yn ardaloedd Llanddaniel Fab a Gaerwen ar Ynys Môn, nac yn agos i Fangor.

Ond mae'r Grid Cenedlaethol yn dweud na fyddan nhw'n ystyried claddu'r ceblau ar draws Ynys Môn.

Dywed yr AC lleol, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn siomedig gyda'r cynigion diweddara, gan ddweud fod y gost o gladdu'r ceblau yn werth ei dalu o ran budd yr Ynys.

Fe fydd 5km o geblau yn cael eu rhoi o dan y ddaear o dan Afon Menai, ac mae pedwar safle posib wedi eu clustnodi ar gyfer croesi'r Afon.

Ymgynghoriad

Yn dilyn ymgynghoriad y llynedd dywed y Grid Cenedlaethol eu bod wedi gwrando ar farn y cyhoedd.

O ganlyniad fydd yna ddim peilonau ger Gaerwen na Llanddaniel Fab, sef llwybr 5D, ac felly ni fydd safle claddu'r ceblau yn yr ardal honno chwaith.

Dau safle claddu sydd dan ystyriaeth erbyn hyn sef un i'r gogledd o Lanfairpwll a'r llall i'r de-orllewin.

Mae pedwar safle posib ar gyfer cloddio o dan y Fenai, un rhwng y ddwy bont, a'r tri llall i'r gorllewin o Bont Britania.

Ond parhau mae'r pwyso yn lleol am gladdu'r ceblau.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Rwy'n teimlo rhwystredigaeth gan amharodrwydd y Grid i wrando ar yr alwad leol am opsiwn gwahanol.

"Mae ein cynnig gwreiddiol o geblau dan y môr wedi ei wrthod gan y grid.

"Mae'r opsiwn arall - ceblau dan ddaear - yn ddrytach a bydd hefyd yn achosi mwy o aflonyddu yn y tymor byr, ond dwi o'r farn fod y gost yn werth ei dalu er mwyn amddiffyn diddordebau'r Ynys."

Yng Ngwynedd mae llwybr 5H ger Penrhosgarnedd wedi ei wrthod ac mae'r safle posib ar gyfer claddu'r ceblau yng Ngwynedd wedi ei leihau yn sylweddol.

Mi fydd yna ragor o ymgynghori yn ddiweddarach eleni.