Lloegr 2-1 Cymru: Torcalon yn y funud olaf

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale

Roedd yna dorcalon i Gymru wrth golli yn erbyn Lloegr yn ei hail gêm ym mhencampwriaeth Euro 2016.

Roedd Lloegr wedi bod yn pwyso am gôl o'r gic gyntaf, ac fe ddaeth sawl cyfle iddyn nhw yn yr hanner cyntaf gyda chic rydd gan Rooney a pheniad gan Smalling, ond mi wyrodd y bêl heibio i'r postyn.

Ond er gwaetha'r holl bwyso gan Loegr, Cymru sgoriodd gyntaf gyda chic rydd gan Gareth Bale ychydig cyn diwedd yr hanner.

Rhodri Tomos, Gohebydd Cymru Fyw sydd yn Ffrainc

Yn y gynhadledd newyddion wedi'r gêm, dywedodd hyfforddwr Cymru, Chris Coleman: "Mae colli'r gêm ar ôl bod ar y blaen ar yr egwyl, yn enwedig o ystyried y modd y collon ni, yn 'gut-wrenching' ond mae'n rhaid i ni godi eto.

Fe ildiodd Lloegr yn y funud ola yn erbyn Rwsia a dangos cymeriad i ddod 'nôl heddiw. Fe allwn ni wneud yr un peth yn erbyn Rwsia ddydd Llun.

Pe bai rhywun wedi dweud wrthon ni cyn y gystadleuaeth y bydden ni'n dal a chyfle i fynd drwodd yn y gêm grŵp olaf, fe fydden ni wedi bod yn ddigon bodlon - dyna'r sefyllfa o'n blaenau ni. Roedd pawb y tu allan i wersyll Cymru yn rhoi gormod o sylw ar y gêm yma - 'Battle of Britain' ac ati.

Roedden ni'n gwybod y byddai'n gêm galed, ac roedd ymdrech y bois yn wych.

Fe gafodd Lloegr lawer o'r meddiant, ond dyw e ddim fel bod Hennessey wedi gorfod neud cyfres o arbediadau. Fe wnaethon ni'n dda, ond wrth gwrs ry'n ni'n siomedig iawn."

Yn yr ail hanner mi darodd Lloegr yn ôl. Vardy gafodd y gôl a hynny ar ôl iddo ddod ar y cae yn lle Sterling.

Roedd yna obaith am gêm gyfartal i Gymru gyda'r chwaraewyr yn llwyddo i amddiffyn am gyfnod hir yn yr ail hanner. Ond, yn eiliadau ola'r gêm, fe sgoriodd Sturridge ac er i Gareth Bale gael un cyfle olaf roedd ei beniad fodfeddi'n rhy bell.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r canlyniad yn golygu bod Lloegr nawr ar frig y grŵp gyda phedwar pwynt. Bydd cefnogwyr Cymru yn canolbwyntio ar y gêm grŵp olaf yn erbyn Rwsia nos Lun.