Galw am ehangu addysg Gymraeg yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae cangen Wrecsam o'r mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn galw ar Gyngor Wrecsam i ystyried codi ysgol gynradd newydd yng ngogledd y sir, ac ail ysgol uwchradd yn y de.
Yn ôl ymgyrchwyr, dyw'r awdurdod lleol ddim wir yn sylweddoli beth yw maint y galw am addysg Gymraeg yn y sir, ac o'r herwydd mae'r cyngor wedi methu â chynllunio'n briodol i ddiwallu'r angen mewn gwahanol ardaloedd.
Ond mae'r cyngor yn dweud bod y ddarpariaeth wedi cynyddu'n sylweddol ers 2008, ac mai canran fach iawn o rieni sy'n methu â chael llefydd i'w plant yn yr ysgol o'u dewis.
Fe fydd yr awdurdod yn adolygu holl ysgolion y sir wrth asesu'r gofynion ar gyfer y dyfodol, a llunio cynigion am arian at gyfer codi a gwella ysgolion dan gynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Galw'n 'tyfu'n aruthrol'
Mewn cyfarfod yng Ngwersyllt nos Fercher - yr ail ers ailsefydlu cangen Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn Wrecsam fis diwethaf - fe godwyd nifer o gwestiynau ynglŷn â'r modd y mae'r cyngor sir yn casglu tystiolaeth ynglŷn â'r galw tebygol.
Dywedodd cadeirydd RHAG Wrecsam, Rhodri Davies: "Teimlo ydan ni fod y cyngor ddim mewn gwirionedd yn sylweddoli faint o alw sydd yma ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir, a fod hynny wedi tyfu'n aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf. Rydan ni'n hyderus mai parhau i gynyddu fydd y galw yna."
Wrth alw ar y cyngor i ystyried codi ysgol gynradd ychwanegol, fe ychwanegodd: "Rydan ni'n ymwybodol o bobl yng ngogledd y sir... sy'n gorfod teithio cryn bellter i gael lle mewn ysgol addysg Gymraeg."
Codi ail ysgol?
Mae'r ymgyrchwyr hefyd yn poeni y bydd unig ysgol uwchradd Gymraeg y sir - Ysgol Morgan Llwyd - dan bwysau difrifol ymhen tair blynedd, wrth i nifer y disgyblion godi'n flynyddol, a bod angen i'r cyngor ystyried codi ail ysgol uwchradd - o bosib, yn ne'r sir.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Wrecsam bod 245 o lefydd meithrin a 245 o lefydd dosbarth derbyn ar gynnig yn ysgolion Cymraeg y sir bob blwyddyn, a bod hynny'n fwy na nifer y ceisiadau am lefydd yn yr ysgolion.
29 o blant sydd wedi methu a chael lle yn ysgol ddewis cyntaf eu rhieni ar gyfer Medi eleni. Roedd 25 o'r ceisiadau hynny am lefydd meithrin. Dim ond yn achos ceisiadau dosbarth derbyn y mae modd apelio yn erbyn penderfyniadau.
Fe gadarnhaodd y cyngor hefyd bod dim lle wedi ei sicrhau eto ar gyfer 16 o blant ar gyfer mis Medi, tra'u bod yn aros i rieni gadarnhau pa ysgolion eraill maen nhw'n fodlon eu hystyried.
Mae'r cyngor hefyd yn dweud bod yna gynlluniau i estyn Ysgol Morgan Llwyd, ac i ddarparu mwy o lefydd yn ysgolion cynradd Cymraeg canol tref Wrecsam, Ysgol Bodhyfryd ac Ysgol Plas Coch.