Mynd i'r afael â phlanhigion estron Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
clearing rhodedendron in TrecwnFfynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Clirio rhododendron anfrodorol oddi ar ochrau serth Cwm Trecŵn

Mae prosiect sy'n mynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol fel clymog Japan yn Sir Benfro yn mynd o nerth i nerth, yn ôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Nod prosiect Pwyth mewn Pryd, sydd yn cael ei weinyddu gan yr Awdurdod, yw cael gwared ar rywogaethau anfrodorol.

Ar hyn o bryd, mae swyddogion a gwirfoddolwyr wrthi'n clirio tir yng Nghwm Gwaun a'r cyffuniau.

Gall rhododendron ponticum, jac y neidiwr a chlymog Japan gymryd lle rhywogaethau brodorol, gan newid cynefinoedd a pheri niwed i eiddo.

Mae'r planhigion yn tueddu i ymledu ar hyd cyrsiau dŵr, felly mae'r prosiect wedi dynodi dalgylchoedd afonydd ac mae'n gweithio o'r brig i lawr. Hyd yma, mae rhywogaethau goresgynnol wedi'u canfod mewn 120 o safleoedd, diolch i ymdrech gwirfoddolwyr.

Ariennir y prosiect Pwyth mewn Pryd gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, ac mae Awdurdod y Parc wedi cael cymorth pellach gan Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd.

Cartref i fywyd gwyllt

Roedd ymdrechion cynnar y prosiect yn canolbwyntio ar glirio rhododendron ar ben gogleddol Cwm Trecŵn.

Esboniodd Matthew Tebbutt, Cydgysylltydd Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Awdurdod y Parc: "Roedd y cwm yn arfer bod yn ganolfan arfogaeth y Llynges Frenhinol yn 1938; heddiw, mae coetiroedd yn gorchuddio ochrau serth y cwm, ac mae'n gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt.

"Rydyn ni wedi gweithio gyda rheolwyr y safle, Datblygiadau Cynaliadwy Cymru, sydd wedi rhoi mynediad i ni, ac mae eu staff wedi bod yn garedig iawn yn gwirfoddoli eu hamser i'n helpu ni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae planhigion fel y rhododendron yn gallu achosi problemau mewn rhannau o Gymru

"Gyda'n contractwyr, rydyn ni wedi torri a phrosesu gorchudd rhododendron trwchus ar yr ochrau serth ar ben afon Aer, sy'n llifo tua'r gogledd i afon Gwaun, rhan o ddalgylch Cwm Gwaun, sy'n sensitif yn ecolegol."

Yn ogystal â dynodi safleoedd, mae gwirfoddolwyr hefyd yn helpu i fynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol yn ymledu.

Dywedodd Matthew: "Y llynedd, bu grwpiau'n gweithio ar ddadwreiddio cannoedd o blanhigion jac y neidiwr cyn y gallai'r hadau aeddfedu, gan glirio'r llystyfiant ger safleoedd clymog Japan er mwyn gallu mynd yno ar gyfer triniaeth chwistrellu'r coesau.

"Cafwyd dros 50 o ddiwrnodau gwirfoddoli ar gyfer y prosiect Pwyth mewn Pryd yn ystod y tymor trin yn 2015. Rydyn ni hefyd wedi gallu manteisio ar arbenigedd caredig prosiectau Dadwreiddio Jac y Neidiwr Cemaes, a oedd yn cael eu hariannu gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy hefyd."

Drwy gydol cyfnod y prosiect, hyd yma, mae diddordeb a chymorth tirfeddianwyr, cymunedau lleol a busnesau wedi bod yn hanfodol, yn ôl Matthew.

Nial Rees, Rheolwr Safle Cwm Trecŵn, Prif Swyddog Adfywio Datblygiadau Cynaliadwy Cymru, sy'n gyfrifol am weithredu ac ailddatblygu Parc y Cwm a'r Morlys yn Ardal Fenter y Ddaugleddau.

Dywedodd: "Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych ac ymarferol o dirfeddianwyr yn gweithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus â chyrff sector cyhoeddus yng ngogledd Sir Benfro. Mae Datblygiadau Cynaliadwy Cymru a Chwm Trecŵn wedi ymrwymo i gynaliadwyedd a bioamrywiaeth y coetiroedd unigryw sydd ar y safle. Mae ein tîm adfywio wrthi'n asesu pa mor ymarferol fyddai cael rhagor o gynlluniau adfer a rheoli coetiroedd yn y cwm ar hyn o bryd."