Amgueddfa Cymru: Gweithwyr yn derbyn cynnig newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Amgueddfa Cymru ac undeb y PCS wedi dod i gytundeb ynglŷn â thaliadau am weithio penwythnos.
Mae'r gweithwyr wedi derbyn cynnig gwell gan yr Amgueddfa ddaw â'r streiciau sydd wedi bod yn digwydd ar safleoedd yr Amgueddfa drwy Gymru ers fis Ebrill i ben.
Pleidleisiodd 78% o aelodau'r undeb i dderbyn y cynnig newydd.
Roedd yr Amgueddfa wedi ceisio dod a "thaliadau premiwm" am weithio penwythnosau i ben.
Ym mis Mehefin fe gynigiodd yr Amgueddfa cymhorthdal sy'n cyfateb â gwerth pum mlynedd o'r taliadau premiwm, a chodiad cyflog o 4%. Roedd y taliad hwn yn ddwywaith yn fwy na'r cynnig blaenorol.
Dywedodd Amgueddfa Cymru ei bod wedi derbyn "cymorth ariannol ychwanegol" gan Lywodraeth Cymru i'w alluogi i gyflwyno'r cynnig gwell i Undeb y PCS.
Ni fydd staff yn gorfod gweithio ar fwy na un penwythnos ymhob dau o ganlyniad i'r adolygiad ac fe fydd taliadau am weithio ar Wŷl y Banc yn parhau.
Yn ôl Amgueddfa Cymru, yn ddibynnol ar faint o ddiwrnodau Sadwrn a Sul mae staff yn gweithio fe allai`r taliadau fod rhwng £163 a £20,000.