Heddlu'r gogledd i wisgo camerâu fideo

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd

Bydd pob heddwas yng ngogledd Cymru yn gwisgo camera fideo pan fyddan nhw ar ddyletswydd, cyhoeddodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones ddydd Llun.

Heddlu Gogledd Cymru yw'r llu cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio'r teclynau fel rhan o'u gwisg.

Yn ei gyfarfod cyntaf o'r panel Heddlu a Throsedd, dywedodd Mr Jones ei fod yn gweithredu'r addewid y gwnaeth yn ei ymgyrch i gael ei ethol fel Comisiynydd.

Fe gafodd 120 o gamerâu sy'n recordio tystiolaeth o droseddau eu defnyddio mewn arbrawf y llynedd.

O hyn ymlaen fe fydd 301 o gamerâu ychwanegol yn cael eu dosbarthu i bob heddwas a phlismyn cymunedol, 421 i gyd ar draws yr ardal ar gost ychwanegol o £163,000.

Yn hwyrach ymlaen bydd camerâu ychwanegol yn cael eu prynu ar gyfer timau arbenigol fel timau arfog.

Defnyddiol wrth gasglu tysiolaeth

Mae Mr Jones yn dweud bod y camerâu wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth gasglu tystiolaeth mewn achosion o drais domestig.

Meddai: "Mae rhoi'r camerâu ar y corff yn gwella'r modd o gasglu tystiolaeth ac yn sicrhau mwy o erlyniadau yn enwedig mewn achosion o drais domestig.

"Mae hefyd yn datrys cwynion yn erbyn yr heddlu oherwydd bod y dystiolaeth ar gamera yn ddiamheuol.

"Yn ôl Coleg yr Heddlu mae'r siawns o sicrhau erlyniad llwyddiannus wedi codi o 72% i 81% wrth ddangos fideo o drosedd o flaen rheithgor."

Ffynhonnell y llun, MANDY JONES

'Dim angen poeni'

Ychwanegodd nad oedd angen i i bobl boeni am gael eu fffilmio ac os oes dim wedi digwydd mae'r ffilm yn cael ei ddileu oddi ar y system o fewn 30 diwrnod.

Fe ddwedodd yr Uwch Prifarolygydd Sacha Hatchett bod y camerau eisoes wedi gwneud gwahaniaeth ar ôl arbrawf y llynedd.

"Yng Ngogledd Cymru, rydym wedi cael rhai enghreifftiau diweddar lle rydym wedi cael ple euog cynnar yn y llys wrth erlyn ac roedd y sancsiynau yn erbyn yr unigolyn yn llawer mwy sylweddol oherwydd bod y rheithgor a'r barnwr wedi gallu gweld cynrychiolaeth weledol o fan y drosedd.

"Gallan nhw weld y ffôn wedi rhwygo oddi ar y wal. Gallent weld y difrod, y lluniau. Gallant weld anafiadau'r dioddefwr yn y fan a'r lle. Gallant weld persona y troseddwr mewn gwahanol stad o feddwdod.

"Mae'r adborth gan Wasanaeth Erlyn y Goron wedi bod yn rhagorol ac mae 'na gred bod camerau fideo yn gwneud gwahaniaeth go iawn".