Mick Antoniw wedi'i apwyntio fel Cwnsler Cyffredinol

  • Cyhoeddwyd
Mick Antoniw

Mae AC Pontypridd, Mick Antoniw wedi ei benodi yn Gwnsler Cyffredinol newydd - prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwleidydd Llafur yn olynu Theodore Huckle, oedd yn y rôl yn ystod y tymor diwethaf.

Fe gafodd ei apwyntiad ei gymeradwyo gan y Cynulliad yr wythnos ddiwethaf.

Fe wnaeth y Frenhines gymeradwyo ei benodi yn swyddogol ddydd Llun.

Roedd Mr Antoniw yn arfer gweithio fel cyfreithiwr cyn cael ei ethol fel Aelod Cynulliad yn 2011.

"Rwy'n falch iawn o groesawu Mick i dîm y Llywodraeth," meddai'r Prif Weinidog Carwyn Jones.

"Mae hon yn swydd hanfodol bwysig, yn enwedig wrth inni ddechrau ar dymor pum mlynedd newydd gyda chorff cynyddol o gyfreithiau yng Nghymru sy'n ategu ein huchelgais i gyflawni ein hymrwymiadau i bobl Cymru."