Sinema 50 sedd newydd i Flaenau Ffestiniog

  • Cyhoeddwyd
Hen orsaf heddlu Blaenau FfestiniogFfynhonnell y llun, Google

Mae Blaenau Ffestiniog ar fin cael sinema am y tro cyntaf ers 40 mlynedd, a hynny ar ôl sicrhau gwerth £100,000 o nawdd.

Mae'r ystafell 50 sedd gyda system sinema ddigidol wedi ei gosod yn hen orsaf heddlu'r dref.

Cell-b ac elusen hyfforddi pobl ifanc, Gwallgofiaid, sy'n gyfrifol am y cynllun, gyda nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Magnox.

Dyma fydd sinema gyntaf y dref ers i'r Fforwm gau yn y 1970au, a bydd yn agor ar 22 Gorffennaf.

Bydd yr elw sy'n cael ei wneud o'r sinema yn cael ei ail-fuddsoddi mewn cynlluniau ar gyfer pobl ifanc.