Tywysog yn rhoi teyrnged i Gwmni Opera Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Tywysog Cymru wedi rhoi teyrnged i gwmni Opera Cenedlaethol Cymru (OCC) ar ei ben-blwydd yn 70 oed.
Fe gafodd cyngerdd arbennig ei chynnal ym Mhalas Buckingham ar ddydd Iau.
Ers ei sefydlu ym 1946 mae OCC wedi rhoi llwyfan i rai o sêr opera mwyaf y byd.
Roedd dau ohonynt yn y palas i berfformio gyda cherddorfa a chorws y cwmni opera.
Fe ganodd Bryn Terfel a Rebecca Evans ar gyfer y 300 o westeion, a oedd yn cynnwys llawer o'r noddwyr sy'n helpu i ariannu'r cwmni.
Dywedodd y Tywysog ei fod yn "falch" i fod yn noddwr Opera Cenedlaethol Cymru a dywedodd ei fod yn gwybod "pa wahaniaeth mae'r cwmni rhyfeddol yma yn ei wneud i Gymru".
Dywedodd wrth y gynulleidfa ei fod am ddymuno Opera Cenedlaethol Cymru y "pen-blwydd hapusaf yn 70 oed".
Canodd Bryn Terfel rai o'i rolau cyntaf gyda OCC ar ddiwedd y 1980au.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd: "Un peth cryf iawn yn hanes y cwmni operatig wrth gwrs ydy'r sawl canwr neu gantores sydd wedi dod o berfformio ar lwyfan cwmni opera Cymru.
"Mae cwmni fel cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn sefydlaid sydd yn datgan bod ganddyn nhw'r ddawn o adnabod talent yn ifanc iawn."
Ar hyn o bryd mae'r cwmni opera ar daith gyda'i chynhyrchiad newydd, In Parenthesis, sy'n seiliedig ar gerdd o'r Rhyfel Byd Cyntaf gan David Jones.
Bydd yr opera yn cael ei berfformio yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain ar ddydd Gwener.